Tân yn effeithio ar rai o wasanaethau trenau yn y Gogledd

  • Cyhoeddwyd
Cyffordd LlandudnoFfynhonnell y llun, Google

Mae rhai o wasanaethau trên yn y Gogledd wedi'u heffeithio oherwydd tân yng Ngorsaf rheilffordd Cyffordd Llandudno fore Sadwrn.

Fe gafodd y Gwasanaeth Tân eu galw i'r orsaf toc wedi 07:00 y bore.

Does neb wedi eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae Trenau Arriva Cymru wedi cadarnhau na fydd trenau yn stopio yng Nghyffordd Llandudno am y tro.

Mae gwasanaethau o Gaergybi, Cyffordd Llandudno i Canol Caerdydd, Blaenau Ffestiniog, Birmingham New Street, Manchester Piccadilly a Euston yn Llundain i gyd wedi eu heffeithio.