Merched Lloegr 0-0 Merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Merched Cymru yn dal ar frig eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd wedi perfformiad amddiffynnol ardderchog yn erbyn Lloegr yn Southampton.

Mae Merched Lloegr yn yr ail safle yn netholion y byd, tra mai rhif 34 yw Cymru ar y rhestr.

Roedd hi'n hanner cyntaf oedd yn brin o goliau, ond digon o ddigwyddiadau dadleuol.

O'r gic gornel y daeth moment mwyaf dadleuol yr hanner. Natasha Harding darodd y bêl tua'r gôl, ond fe wyrodd ddwywaith a heibio i'r golwr.

Barn y dyfarnwr oedd bod Lucy Bronze wedi cyrraedd mewn pryd i glirio'r bêl oddi ar y llinell, ond roedd pob un o dîm Cymru yn hawlio bod y bêl wedi croesi am gôl.

Taro'r trawst

Roedd Laura O'Sullivan yn y gôl i Gymru eisoes wedi bod yn brysur pan ddaeth y bêl at Jordan Nobbs.

Fe darodd ergyd o 25 llath a bu'n rhaid i O'Sullivan fod ar ei gorau i lawio'r bêl ar y trawst ac allan.

Disgrifiad o’r llun,

A groesodd hon y llinell am gôl i Gymru?

O'r ddau reolwr, Jayne Ludlow fyddai wedi bod yr hapusaf ar yr egwyl gyda Chymru'n gwneud mwy na dal eu tir.

Roedd rhwystredigaeth Lloegr yn amlwg, ac wedi dim ond wyth munud o'r ail hanner daeth dau eilydd ymlaen i geisio newid eu patrwm o chwarae.

O fewn dim roedd un o'r ddwy newydd - Mel Lawley - wedi taro ergyd o 20 llath aeth fymryn dros y trawst.

Seren y gêm

Gyda Lloegr yn mwynhau tua 80% o'r meddiant, roedd merched Cymru'n dechrau blino, ac wedi 70 munud roedd rhaid i O'Sullivan fod ar ei gorau eto i arbed ergyd wych gan Nobbs.

O'r 12fed cic gornel i Loegr, bu'n rhaid i Hayley Ladd benio'r bêl o'i llinell ei hun, a doedd dim byd i weld yn pasio O'Sullivan oedd yn cael gêm wych.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rheolwr Lloegr, Phil Neville, ffrae gan y dyfarnwr am helpu Kayleigh Green, oedd yn dioddef gyda chramp

Gyda phum munud yn weddill daeth cyfle da i Abbie McManus o gic rydd, ond aeth ei chynnig i'r rhwyd ochr.

Roedd amser eto am arbediad gorau'r gêm gan Laura O'Sullivan. Nobbs eto gydag ergyd o 25 llath, oedd yn hedfan i'r gornel uchaf tan i O'Sullivan wthio'r bêl drosodd.

Fe gafodd pedwar munud eu hychwanegu am anafiadau, ac yn yr amser yna bu'n rhaid i O'Sullivan arbed eto... o'i chwaraewr ei hun.

Daeth croesiad oddi ar goesau Sophie Ingle, ond roedd y golwr yn y lle iawn eto, ac roedd hi'n gwbl haeddiannol o wobr seren y gêm.