Canslo trenau ac oedi am fod ceblau wedi eu dwyn
- Cyhoeddwyd

Yr olygfa yng ngorsaf Caerdydd Canolog ddydd Sadwrn
Ceblau wedi eu dwyn rhwng Caerdydd a Chasnewydd wnaeth achosi oedi mawr i gwsmeriaid trenau yn ne Cymru ddydd Sadwrn medd National Rail.
Mae peirianwyr wedi bod yn gwneud gwaith atgyweirio fore Sul.
Ond mae rhai gwasanaethau bore rhwng canol Caerdydd a Bryste wedi eu canslo.
Roedd trenau CrossCounty, Great Western a Trenau Arriva Cymru wedi eu canslo neu roedd yna oedi o hyd at 70 munud i gwsmeriaid ddydd Sadwrn.
Fe ddechreuodd rhai siwrneiau ail gychwyn yn hwyrach yn y dydd a chafodd bysiau eu defnyddio i gludo teithwyr.