Tair aur, dwy arian ac efydd arall i Gymru yn y Gemau
- Cyhoeddwyd

Cipiodd Hollie Arnold yr aur gyda'i thafliad olaf
Mae Cymru wedi ennill tair medal aur arall ddydd Llun yng Ngemau'r Gymanwlad yn Arfordir Aur.
Fe enillodd Daniel Salmon a Marc Wyatt yr aur yn y bowlio i barau ar ôl curo Alex Marshall a Paul Foster o'r Alban, a enillodd y fedal aur bedair blynedd yn ôl.
Daeth yr aur fwyaf dramatig yn y gystadleuaeth taflu'r waywffon F46 i Hollie Arnold, wrth iddi dorri'r record byd.
Alys Thomas enillodd fedal aur gyntaf Cymru yn y pwll, gan ennill y 200m dull pili-pala mewn amser o 2:05.45.

Roedd y sioc ar wyneb Alys Thomas yn glir i'w weld wedi iddi ennill
Yn y gawell saethu, roedd yna fedal arian i Ben Llewellin tra bod Latalya Bevan wedi cipio'r arian yn y gystadleuaeth llawr yn y gymnasteg artistig.
Mae Tesni Evans wedi ennill y fedal efydd wrth guro Nicol David o Malaysia yn y gêm am y trydydd safle yn y sboncen i ferched - y fedal gyntaf i Gymru ar y cwrt sboncen ers 20 mlynedd.

Dyma ydy'r trydydd tro i Marc Wyatt gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, ac fe enillodd fedal efydd yn Glasgow yn 2014
Yn rownd gynta'r gystadleuaeth gwaywffon F46 roedd Holly Robinson o Seland Newydd wedi torri'r record byd, gan adael Arnold yn yr ail safle.
Ond yna yn y rownd olaf, fe dorrodd Arnold y record yna gyda thafliad anferth ei hun o 44.43m i gipio'r aur.

Fe wnaeth Latalya Bevan gipio'r fedal arian yn y gystadleuaeth llawr yn y gymnasteg artistig

Daeth medal arian hefyd i Ben Llewellin
Mae cyfanswm medalau Cymru yn y gemau hyd yma yn 16 o fedalau, sy'n cynnwys chwe medal aur, chwe arian a phedair efydd.
Yn y cyfamser mae'r cyn-bencampwr dros y clwydi, Dai Greene, wedi gorfod tynnu'n ôl o gystadlu ar ôl anafu ei goes tra'n ymarfer.

Fe gurodd Tesni Evans prif ddetholyn Lloegr, Laura Massaro, i gyrraedd y rownd gyn-derfynol