Carcharu beiciwr modur am achosi marwolaeth ei gefnder
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur wedi cael ei garcharu wedi iddo achosi marwolaeth ei gefnder mewn gwrthdrawiad ffordd yn Aberfan ar ôl goryfed.
Roedd Jonathan Walmsley, 27, hefyd yn goryrru pan darodd yn erbyn car ym mis Ebrill y llynedd, gan achosi i Andrew Lewis hedfan drwy'r awyr.
Fe wnaeth Mr Lewis, 22, daro yn erbyn polyn telegraff a marw yn y fan a'r lle o anafiadau i'w frest.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful nad oedd yr un o'r dynion yn gwisgo helmed, a bod Walmsley wedi bod yn yfed yn ogystal â chymryd canabis ac amffetaminau.
'Heb faddau'
Clywodd y llys fod y beic modur wedi "dod o nunlle", a'i fod wedi ceisio pasio car Ford C-Max oedd yn troi i mewn i ganolfan ailgylchu pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Cafodd Walmsley ei hedfan mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty gydag anafiadau oedd wedi newid ei fywyd.
Ond clywodd y llys fod teulu Mr Lewis ddim wedi maddau i Walmsley yn dilyn y gwrthdrawiad angheuol.
"Mae e'n chwerthin a mas gyda'i ffrindiau - mae e fel pe na bai ots gyda fe bod Andrew wedi cael ei gymryd oddi wrthym ni," meddai mam Andrew, Ann Lewis, mewn datganiad.
Ar ran yr amddiffyniad dywedodd Lucy Crowther fod Walmsley wedi dangos "edifeirwch go iawn" am farwolaeth Mr Lewis.
"Mae e wedi dweud ei fod yn dymuno mai fe oedd wedi marw ac nid ei gefnder," meddai.
Cafodd Walmsley, o Aberfan, ei garcharu am dair blynedd a phedwar mis ar ôl cyfaddef i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Cafodd hefyd waharddiad gyrru am bedair blynedd ac wyth mis.