Bryn Fôn a PTSD

  • Cyhoeddwyd
bryn fonFfynhonnell y llun, S4C

Mae PTSD (Anhwylder Straen Wedi Trawma) yn gyflwr sy'n cael ei gysylltu'n aml gyda chyn-filwyr a phobl sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd hynod o beryglus.

Ond mae'n gallu effeithio ar bobl o wahanol gefndiroedd. Mae Bryn Fôn yn chwarae rhan Dr Elgan Pritchard, sy'n dioddef gyda chyflwr PTSD, yn yr opera sebon Pobol y Cwm.

Mae Bryn yn cyflwyno rhaglen ddogfen yn trafod PTSD a fydd yn cael ei darlledu ar S4C am 21.30 nos Fercher, 18 Ebrill.

Beth oeddech chi'n ei wybod am y cyflwr PTSD cyn gwneud y rhaglen ddogfen?

'Chydig iawn oeddwn ni'n ei wybod am y cyflwr cyn hyn, fel llawer roeddwn yn cysylltu PTSD â chyn-filwyr, wedi clywed sawl stori ar y newyddion am y cyflwr yn effeithio pobl yn negyddol ar ôl iddynt ddychwelyd o ryfel.

Dwi hefyd yn cofio ymgyrch yn y 90au, dwi'n credu, i gael y Weinyddiaeth Amddiffyn i gydnabod fod PTSD yn gyflwr oedd yn effeithio milwyr. Doeddwn ni'n sicr ddim yn ystyried ei fod yn gyflwr mor gyffredin a'i fod yn effeithio cymaint o bobl.

Disgrifiwch yr her o chwarae rhan cymeriad rhywun sydd â PTSD.

Mae chwarae rhan Dr Elgan Pritchard, y cyn-filwr, wedi bod yn dipyn o her, ond yn sialens ddifyr ar yr un pryd. Does 'na ddim byd gwell gan actor na chwarae cymeriad cymhleth, lle mae gennych nifer o haenau diddorol sy'n cystadlu am sylw'r un pryd.

Mi rydych yn twyllo'r gynulleidfa i feddwl fod o y math yma o ddyn ac yna yn sydyn yn datgelu mai celwydd yw hynna a'i fod yn rhywbeth hollol wahanol. Roedd rhai o'r golygfeydd emosiynol, lle'r oedd Elgan yn trïo wynebu ei drawma ei hun yn anodd iawn, achos mae cynnal y math yna o densiwn yn y corff drwy'r dydd yn flinedig iawn.

Ond y boen fwyaf oedd gen i, oedd mod i'n gwneud rhywbeth yn anghywir a mod i yn pechu rhai o'r bobl oedd wedi cytuno i fy helpu ar y cychwyn.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryn yn chwarae rhan Dr Elgan Pritchard yn Pobol y Cwm ers tua 12 mis

Sut wnaethoch chi ymchwilio i mewn i'r cyflwr?

I baratoi ar gyfer y rhan mi wnes i ddarllen yn helaeth am Ryfel y Balkans, lle'r oedd Elgan wedi gwasanaethu yn y 1990au. Gwylio hen adroddiadau newyddion ar y wê, ac ymchwilio i ystod gwaith medic milwrol. Mi wnaeth criw cynhyrchu Pobol y Cwm drefnu i mi gyfarfod â nifer o gyn-filwyr, a dyna beth oedd agoriad llygaid.

Roedd clywed sut oedd y cyflwr yn dal i effeithio eu bywydau, rhai wedi hanner can mlynedd ers y trawma gwreiddiol, yn frawychus. Dod i ddeall fod y "trigger" lleiaf yn gallu achosi "episode" oedd yn parhau am ddyddiau, a bod y digwyddiadau hyn yn effeithio pawb o'u cwmpas.

Sut oedd hi'n teimlo i gwrdd â'r cyfranwyr ar gyfer y rhaglen?

Fel heddychwr mae'n anodd iawn dychmygu fy hun fel milwr, ond mae'n debyg mai dyna mae'r hyfforddiant yn ei wneud - newid person cyffredin i fod yn filwr sy'n fodlon codi gwn yn erbyn y gelyn. A'r cwestiwn sy'n codi wedyn, a ydi'r milwyr yma ar ôl gorffen yn cael digon o gymorth a chwnsela i ddod yn ôl i fywyd bob dydd fel person cyffredin?

Fel un sydd yn hoffi antur a wynebu peth perygl mi fedraf ddeall beth sydd yn denu pobl ifanc at y bywyd yma, ac mi glywais sawl un, gan gynnwys rhai oedd wedi cael anafiadau corfforol drwg, yn dweud y byddent yn mynd yn ôl i faes y gad yfory os byddai'r cyfle yn dod. Roedd cyfarfod a chyfweld y meddyg-filwr Rhys Thomas yn brofiad bythgofiadwy, dyn annwyl, deallus a chaled fel haearn Sbaen.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Wrth greu'r rhaglen fe ddysgodd Bryn sut mae ceffylau yn cael eu defnyddio fel rhan o therapi i drin PTSD

Beth ydych chi'n feddwl o'r ddarpariaeth sydd ar gael i drin pobl sydd efo'r cyflwr?

O ran triniaeth, mae pethau yn gwella, yn ara' deg. O ran y cyn-filwyr wnes i gyfarfod, roeddynt i gyd yn cwyno am y ddarpariaeth gan NHS Veterans. Mae'n debyg fod 'na nifer cynyddol yn troi at yr elusen Combat Stress.

O ystyried fod 'na gymaint o recriwtio yn mynd ymlaen yng Nghymru, yn arbennig yn yr ardaloedd tlotaf, ychydig iawn o gymorth sydd i gael yma, gyda nifer yn gorfod teithio i Loegr i gael triniaeth arbenigol.

Beth hoffech i'r gynulleidfa gymryd o'r rhaglen?

Y gobaith wrth wneud y rhaglen oedd addysgu pobol am y cyflwr, i ddangos fod 'na wahanol driniaethau ar gael, fod 'na waith ymchwil diddorol yn mynd ymlaen yma yng Nghymru ac os ydi gwylio'r rhaglen yn helpu un person i fynd i chwilio am gymorth, mi fydda i'n hapus.