'Hunaniaeth undeb athrawon UCAC yn bwysig'
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol undeb UCAC, sy'n ymddeol ym mis Awst, yn dweud bod "hunaniaeth yr undeb yn bwysig" iddi, ac nad oes bwriad i uno.
Er bod undebau'r NUT ac ATL wedi uno i greu'r NEU, does dim bwriad gan UCAC ar hyn o bryd i ddilyn yr un trywydd.
Daw sylwadau Elaine Edwards, sydd wedi bod wrth y llyw ers 2008, wrth i UCAC gynnal ei chynhadledd flynyddol yn Nant Gwrtheyrn.
Cafodd yr undeb ei ffurfio dros 75 mlynedd yn ôl, ac yn ôl Ms Edwards mae'n bwysig bod yr undeb yn un annibynnol, ond sy'n gallu cydweithio gydag undebau athrawon eraill.
"Ni yw'r unig undeb i'w sefydlu yng Nghymru erioed ar gyfer gweithwyr yng Nghymru, hyd heddiw," meddai Ms Edwards wrth Cymru Fyw.
"Ry'n ni yn cynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf i aelodau sydd yn bersonol ac yn gyfan gwbl yn y Gymraeg, ac yn hynny o beth, dy'n ni'n unigryw."
Er hynny mae'n dweud bod UCAC wedi cael y "gorau o ddau fyd", trwy gydweithio gydag undebau eraill ar ymgyrchoedd mawr a chael y maen i'r wal, ond hefyd lleisio safbwynt yr aelodaeth yng Nghymru.
Mae undebaeth yn egwyddor bwysig i'r gyn-athrawes Saesneg o bentref Rhosaman yn Sir Gâr, ac mae'n teimlo'n gryf bod angen gwrthwynebu unrhyw fygythiad iddo.
Yn ôl Ms Edwards, mae'r ffigyrau aelodaeth yn dangos bod yr undeb yn dal ei thir.
"Ni'n ymfalchïo yn y ffaith bod ni yn cynnal ein haelodaeth yn dda dros ben, pan mae undebau yn gyffredinol yn mynd trwy gyfnod anodd ac mae hwnna yn bwysig i ni," meddai.
Ymysg yr ymgyrchoedd mae'r ysgrifennydd cyffredinol wedi ymwneud â nhw yn y degawd diwethaf mae newidiadau i bensiynau athrawon, toriadau ariannol a datganoli cyflogau i Gymru.
Dywedodd bod y buddugoliaethau weithiau'n rhai "cudd".
"Chi'n gweld aelodau yn cael buddugoliaeth iddyn nhw eu hunain oherwydd bod UCAC wedi bod yn eu cynrychioli nhw ac mae'r rhain yn fuddugoliaethau preifat yn aml," meddai Ms Edwards.
Y llwyddiannau
Mae'n rhestru'r ffaith fod newidiadau yn y cynlluniau pensiwn ddim wedi bod mor "ddifrifol ag oedden ni yn ofni ar y cychwyn oherwydd ymgyrchoedd mawr" fel un o'r buddugoliaethau cyhoeddus diweddar, a hefyd datganoli cyflogau ac amodau gwaith athrawon i Gymru.
Her sydd yn parhau, meddai, yw addysg Gymraeg: "Mae ymgyrchoedd addysg Gymraeg yn hynod o bwysig i ni ac yn mynd at wraidd ein sefydlu ni mewn gwirionedd.
"Mae'r frwydr honno i sicrhau, nid yn unig bod digon o ddarpariaeth addysg Gymraeg ond bod e'n ystyriaeth ganolog ym mhob polisi addysg, mae hwnna yn dalcen caled iawn.
"Ond y'n ni yn gweld datblygiadau ac mae hwnna yn bwysig dros ben."
Ariannu addysg
Bydd amrywiaeth o bynciau yn cael eu trafod yng nghynhadledd UCAC yn ystod y penwythnos, yn eu mysg, ariannu addysg.
Dywedodd bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru edrych arno am nad yw'n bosib cyflwyno rhagor o doriadau, ac y bydd yn neges y bydd yn adleisio i'r ysgrifennydd addysg, Kirsty Williams, fydd yn mynychu'r gynhadledd.
Hon fydd cynhadledd olaf Ms Edwards cyn trosglwyddo'r awenau i'w holynydd, Dilwyn Roberts-Young.
Ei bwriad ar ôl rhoi'r gorau iddi yw cael "bach o frêc, bach o amser i gasglu meddyliau, i fwynhau pethau sydd wedi bod yn anodd falle i fwynhau mewn amser sydd wedi bod yn ddigon prin fel amser sbâr, mewn swydd sydd wedi bod yn un cyfrifol dros ben ac ar lefel eithaf dwys".
Y gwaith yn 'fraint'
Ond mae'n gobeithio cadw cysylltiad mewn rhyw ffordd gyda'r byd addysg.
"Byddai hynny falle yn beth braf, ac yn bennaf, 'wy'n teimlo mod i wedi bod yn ffodus dros ben. 'Wy wedi cael cyfnod cyffrous dros ben," meddai.
"Mae wedi bod yn swydd hynod o ddiddorol, yn gyfrifoldeb enfawr ond mae hefyd wedi bod yn fraint."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2017