'Sut i godi tai a chael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050'
- Cyhoeddwyd
Sut mae codi tai newydd a sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu?
Mae'n drafodaeth sy'n digwydd mewn cymunedau ledled y wlad, ac mewn darlith yn y Senedd ddydd Iau, bydd bargyfreithiwr blaenllaw yn cynnig atebion. Yma, mae Gwion Lewis yn egluro sut...
Nod Llywodraeth Cymru yw y bydd miliwn ohonom yn siarad Cymraeg erbyn 2050. Bydd angen newidiadau sylweddol mewn sawl maes os yw hynny am ddigwydd, ond ychydig iawn o drafod sydd wedi bod - hyd yma - ynglŷn â'r cyfraniad y gallai'r maes cynllunio gwlad a thref ei wneud i wireddu'r uchelgais.
Bydd rhai yn rhyfeddu at y frawddeg ddiwethaf: onid ydym, ran amlaf, yn cysylltu'r gyfundrefn gynllunio â bygythiad i'r iaith Gymraeg?
Pa "gyfraniad" allai'r gyfundrefn hon ei wneud at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg os mai un o'i phrif ddibenion yw galluogi datblygwyr "barus" i godi stadau mawr o dai (ac ambell i orsaf niwclear) sy'n bygwth hyfywedd yr iaith?
Rydw i wedi bod yn ymwneud â'r gyfraith gynllunio ers bron i bymtheng mlynedd bellach yn fy ngwaith fel bargyfreithiwr. Y llynedd, fe wnes i ddadlau mwy o achosion cynllunio yng Nghymru nag erioed o'r blaen.
Serch hynny, ugain mlynedd ers i'r maes cynllunio gael ei ddatganoli i Gymru, deddf a wnaed yn San Steffan - Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 - sy'n dal i deyrnasu yn yr achosion hyn.
Yn 2015, penderfynodd y Cynulliad ddiwygio rhai rhannau o'r ddeddf ar gyfer Cymru, ond ar y cyfan, newidiadau technegol a di-fflach a gafwyd; nid oedd ymdrech i ddiwygio'r drefn yn sylfaenol er mwyn cynnig atebion Cymreig i broblemau Cymreig.
Mae'n bryd i hynny newid.
'Gwrthdaro a drwgdeimlad o'r cychwyn'
Mewn darlith yn y Senedd ym Mae Caerdydd [ddydd Iau], o dan adain Academi Morgan, Prifysgol Abertawe, byddaf yn dadlau y dylai'r Cynulliad ddeddfu er mwyn rhoi mwy o rym i gymunedau yng Nghymru i reoli faint o dai ac adeiladau newydd eraill sy'n cael eu codi yn eu hardaloedd.
Sut i wneud hynny? Rwy'n argymell y dylid cyflwyno haen newydd, hynod leol, o gynllunio gwlad a thref: "cynllunio cymunedol".
Eisoes, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn paratoi "cynllun datblygu lleol" sydd, ymysg pethau eraill, yn datgan faint o dai fydd angen eu codi yn yr ardal dros gyfnod penodol.
Bron yn ddieithriad, mae'r cynlluniau hyn yn ddadleuol tu hwnt gan eu bod hefyd yn neilltuo safleoedd ar gyfer codi'r tai sydd eu hangen - safleoedd sy'n annerbyniol i lawer.
Canlyniad hyn yw cyfundrefn sy'n arwain at wrthdaro a drwgdeimlad o'r cychwyn cyntaf.
Rwy'n credu y gellid osgoi llawer o'r gwrthdaro hwn pe rhoddid y grym i gynghorau cymuned yng Nghymru benderfynu ble y dylid codi tai newydd yn eu hardaloedd, yn hytrach na chynghorau sir.
O dan y drefn newydd hon, byddai'r cyngor sir yn dal i ddatgan yn y cynllun datblygu lleol y lleiafswm o dai newydd sydd angen eu codi ym mhob cymuned.
Fodd bynnag, y gymuned leol ei hun, drwy gyfrwng "cynllun cymuned" wedi ei baratoi a'i gymeradwyo gan y cyngor cymuned lleol yn dilyn refferendwm, fyddai'n penderfynu ble y dylid codi'r tai hynny a'r nifer a'r math o dai sy'n dderbyniol.
Prif fantais trefn o'r fath yw y byddai'n annog datblygwyr tai i gynnal trafodaethau yn uniongyrchol gyda'r cyngor cymuned yn gynnar yn y broses gynllunio. Gan mai'r cyngor cymuned fyddai â'r grym bargeinio, gallai fynnu fod y datblygwr yn cyfrannu'n sylweddol tuag at isadeiledd lleol os ydyw'n dymuno i'w safle gael ei ddewis fel safle tai yn y cynllun cymuned.
Gan ddefnyddio'r un grym bargeinio, gallai'r cyngor hefyd roi pwysau ar y datblygwr i wneud cais cynllunio am nifer llai o dai na fwriedid yn wreiddiol. Ar hyn o bryd, ychydig o'r bargeinio uniongyrchol hyn sy'n digwydd yng Nghymru oherwydd nad oes gan gynghorau sir yr adnoddau i fedru rhoi'r fath sylw i bob un o'i chymunedau.
'Y Gymraeg yn haeddu gwell'
Ble mae'r iaith Gymraeg yn y darlun hwn? Ystyriwch hyn: pe bai'r gyfundrefn gynllunio yng Nghymru yn grymuso cynghorau cymuned yn y modd a awgrymir uchod, byddai o reidrwydd yn eu galluogi i ddefnyddio'r Gymraeg, hefyd, fel "arf" wrth drafod cynnwys y cynllun cymuned gyda datblygwyr.
Er enghraifft, pe bai datblygwr yn gofyn i gyngor cymuned neilltuo tir yn ei gynllun ar gyfer cymysgedd o dai ac adeiladau busnes newydd, gallai'r cyngor gytuno i wneud hynny ar yr amod fod y prosiect yn dangos yr arferion gorau o safbwynt yr iaith Gymraeg.
Gellid mynnu fod y prosiect yn cynnwys ysgol feithrin Gymraeg; gellid gosod amodau ar y caniatâd cynllunio i sicrhau fod pob busnes neu siop yn y datblygiad yn cynnig gwasanaeth Cymraeg; gallai amodau pellach fynnu fod y tai newydd yn cael eu marchnata drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai'r pethau hyn oll yn gwbl gyfreithlon.
Agwedd ar gynllunio gwlad a thref yw cynllunio ieithyddol; nid ydynt yn llwyr ar wahân i'w gilydd. Ychydig iawn o ddychymyg a ddangoswyd hyd yn hyn o ran y berthynas rhwng y ddau faes. Mae'r Gymraeg yn haeddu gwell na hyn.