Trapiau hoelion ar lwybr beicio yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
hoelionFfynhonnell y llun, Dr Roderick Bale
Disgrifiad o’r llun,

Dr Roderick Bale ddaeth o hyd i'r trapiau hoelion

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i hoelion gael eu gosod ar lwybr sy'n boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr yng Ngheredigion.

Fe gafodd darnau o bren gyda'r hoelion wedi eu gwthio drwyddyn nhw eu gosod ar y llwybr yng nghoedwig Fforest Fawr ger Llambed, ac roedd negeseuon anweddus wedi eu hysgrifennu gerllaw.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio'r cyhoedd sy'n defnyddio'r goedwig i fod yn ofalus.

Cafodd y trapiau eu darganfod gan Dr Roderick Bale sy'n defnyddio'r llwybr i deithio i'r gwaith.

Fe wnaeth ddisgrifio'r trapiau fel hoelion pedair neu chwe modfedd o hyd wedi eu gwthio i mewn i'r darnau pren ac yna'u cuddio gan ddail neu fwsog.

Dywedodd: "Fe fydden nhw'n achosi pynjar ac fe allai achosi anaf i anifail neu berson fyddai'n sefyll arnyn nhw - anaf drwg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Bale yn beicio i'r gwaith ar hyd y llwybr

Ychwanegodd ei fod wedi gweld gwydr wedi malu ar yr un llwybr ddwy flynedd yn ôl, ac mae'n credu fod y trapiau "yn ffordd o fygwth pobl i beidio defnyddio'r llwybr".

Roedd Dr Bale yn cyfadde' ei fod wedi gwylltio, ond hefyd "yn ddigalon fod rhywun wedi treulio'i amser yn gwneud hyn".

Ond mynnodd: "Fydda i ddim yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r goedwig. Ry'n ni'n ffodus o gael hwn ar ein stepen drws."

Mae'r goedwig yn eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru, a dywedodd eu rheolwr eiddo yn yr ardal, Huwel Manley fod yr eitemau dan sylw wedi cael eu clirio.

Dywedodd: "Mae difrodi coedwig yn beryglus dros ben ac yn peryglu pobl ac anifeiliaid.

"Mae pobl yn gallu defnyddio'r goedwig i gerdded, beicio neu farchogaeth. Mae'n ffordd wych o fwynhau'r amgylchedd a bod yn iach yn yr awyr agored, ond mae angen i bobl fod yn ddiogel wrth wneud hynny."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn ni unrhyw un a welodd ymddygiad amheus yn y goedwig i gysylltu â nhw.