Ystyried cau tair ysgol wledig ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynlluniau i gau ysgolion gwledig ar Ynys Môn yn cael eu gwthio ar frys cyn i'r rheolau a fyddai'n eu gwarchod yn well ddod i rym, medd Cymdeithas yr Iaith.
Ddydd Llun bydd pwyllgor craffu Cyngor Môn yn trafod cau Ysgol Corn Hir, Ysgol Bodffordd ac Ysgol Henblas yn ardal Llangefni.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod cynlluniau'r cyngor wedi'u seilio ar hen ddadleuon.
Ond mae'r cyngor yn dweud bod angen ysgolion o safon uchel ac yn gwadu eu bod yn rhuthro i wneud penderfyniadau.
Argymhellion
Bydd adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan y pwyllgor ddydd Llun yn nodi y gost fesul disgybl a'r gwaith cynnal a chadw sydd angen ei wneud ar y tair ysgol.
Bydd hefyd yn cyfeirio at safonau is na'r disgwyl yn Ysgol Henblas ac Ysgol Bodffordd.
Mae'r adroddiad yn argymell naill ai adeiladu ysgol newydd yn lle'r tair ysgol neu adeiladu ysgol yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir a chynnal Ysgol Henblas - yn yr un modd ag a wneir ar hyn o bryd neu fel ysgol aml-safle.
Bydd y pwyllgor yn ystyried y dewisiadau ac yn gwneud argymhelliad ar ddyfodol yr ysgolion.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi tynnu sylw at y newidiadau i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion gan nodi mai cau ysgolion gwledig ddylai fod y dewis olaf pan fydd y newidiadau yn dod i rym .
Yr adeg hynny, bydd awdurdodau yn gorfod asesu effaith debygol cau'r ysgol ar addysg y plant, y gymuned yn ehangach a'r trefniadau teithio - ac fe fydd disgwyl angen egluro pam mai cau'r ysgol yw'r dewis "mwyaf addas".
Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ym Medi 2017 ac mae'r cynlluniau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.
Gan gyfeirio at hyn, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud apêl i'r ysgrifennydd addysg Kirsty Williams.
Dywedodd llefarydd: "Roedd yna gyfnod o ymgynghori yr haf diwethaf ar y Cod Trefniadaeth Ysgolion - sydd o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor.
"Hoffwn dynnu eich sylw i'r ffaith bod swyddogion addysg ar Ynys Môn yn ceisio rhuthro cynnig i gau ysgolion cyn i'r cod newydd ddod i rym.
"Maent yn defnyddio yr un hen ddadleuon a allai arwain at gau pob ysgol wledig ar eich rhestr."
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Rydyn yn ymwybodol o'r newidiadau posib i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac fe fyddwn yn gweithredu ar y gofynion.
"Felly bydd yr effaith ar y gymuned, yr iaith ac effeithiau eraill yn cael eu hystyried...
"Mae'r cyngor sir wedi ymrwymo i ymgynghori ar gynlluniau a fyddai'n sicrhau y defnydd gorau o adnoddau, digon o le ac addysg o'r radd flaenaf yn ardal Llangefni ac yn wir ymhob rhan o'r ynys."
Ymateb y Llywodraeth
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn y broses o ddadansoddi yr atebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ac ry'n yn disgwyl i'r cod ddod i rym yn yr hydref.
"Yn y cyfamser ry'n yn disgwyl i awdurdodau lleol ymateb yn ysbryd y cod newydd drwy sicrhau bod pob achos i gau ysgol yn un cryf a bod pob dewis amgen wedi'i archwilio'n fanwl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2017