Bandiau Cymraeg yn Y Penwythnos Mwyaf
- Cyhoeddwyd
Ar ei raglen ar BBC Radio 1 nos Lun, 23 Ebrill, cyhoeddodd Huw Stephens pa fandiau fydd yn chwarae ar lwyfan BBC Introducing a BBC Gorwelion yn Y Penwythnos Mwyaf yn Abertawe ar benwythnos y 26ain a 27ain Mai.
Ymhlith yr artistiaid, mae'r bandiau Cymraeg Band Pres Llareggub, Chroma, MELLT a Serol Serol. Maen nhw'n ymuno â cherddorion eraill o Gymru, sy'n cynnwys Trampolene, Rachel K Collier, a llu o artistiaid eraill o bob cwr o'r byd.
Mae Serol Serol yn brosiect dwy gyfnither o Lanrwst, Leusa Rhys a Mali Sion, gyda George Amor a Llŷr Pari.
Ymateb Leusa o glywed y newyddion gynta' oedd 'BEEEEEE?!!!'
"Mae o jest mor rhyfadd, achos blwyddyn yn ôl, odda ni ddim hyd yn oed wedi cael gig, a dal yn sgwennu caneuon. O'dd y'n gig cynta' ni mis Hydref yn Clwb Ifor Bach. 'Sa 'na rywun wedi d'eud ma dyma 'sa ni'n ei 'neud eleni, 'sa ni ddim 'di coelio'r peth!
"Dwi mor excited ond bach yn nyrfys hefyd. Yn anffodus, dwi'm yn 'nabod neb sy'n mynd achos 'nath y tocynnau werthu allan mor gyflym, ond dwi'n ei ffeindio hi'n haws i wneud gig o flaen pobl dwi ddim yn eu 'nabod, felly ma'n iawn.
Canu i Taylor...
"Fydd o'n brofiad mor wahanol, a dwi'n meddwl 'neith o ni yn fwy hyderus wedyn. Mae ganddo ni dipyn o gigs wedyn yn yr haf, felly siŵr fydda ni ddim mor nyrfys erbyn hynny ar ôl g'neud hwn!
"Ond 'da ni wir angen ymarfer - ma' hi'n anodd cael amser gan mod i yng Nghaerdydd a'r lleill yn y gogledd. Ond 'da ni angen bod on top form! 'Sa fo'n gallu arwain at betha' eraill - be' sy' nesa'?!
"A fydd Taylor Swift yna yr un diwrnod â ni! WAW!"
Rhoi bandiau o Gymru ar y map
BBC Gorwelion sydd wedi curadu'r artistiaid Cymreig a fydd yn perfformio ar y llwyfan, ac yn ôl Bethan Elfyn, mae hi wedi bod yn gyffrous i gydweithio â BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales i ddewis y bandiau.
"Mae hi'n dda gweld gymaint o amrywiaeth yn y sin gerddorol Gymreig yn cael ei adlewyrchu yn yr ŵyl - o fand fel Trampolene sydd yn dod o Abertawe ac wedi bod yn teithio efo Liam Gallagher, i fand fel Astroid Boys, un o fandiau byw mwyaf Cymru ar hyn o bryd. Mae'r cynhyrchydd dawns Rachel K Collier hefyd o Abertawe ac wedi cael blwyddyn anhygoel yn barod, gan gynnwys chwarae yn SXSW yn Texas, a theithio i India i wneud gweithdai cynhyrchu - mae hi'n anhygoel.
"Mae talent cerddorol Cymru yn bendant yn ffynnu ar hyn o bryd ar hyd a lled y byd ac dwi'n edrych ymlaen i weld sioeau cyffroes gan y bandiau Cymreig yma yn Y Penwythnos Mwyaf."
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mharc Singleton dros benwythnos gŵyl y banc ddiwedd Mai. Rhai o'r enwau mawr fydd yn dod i'r ddinas i berfformio yw Sam Smith, Taylor Swift, Ed Sheeran a Florence and the Machine.