Cymro a anwyd yn Yr Almaen yn cael trafferth cael pasport

  • Cyhoeddwyd
john ingram
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i John Ingram wneud cais am basport

Mae dyn o Sain Tathan, a gafodd ei eni yn Yr Almaen pan oedd ei rieni'n gweithio i'r llu awyr brenhinol yno, yn dweud nad yw'n medru cael pasport Prydeinig tan iddo gael mwy o ddogfennau.

Dywedodd John Ingram, 39 oed, fod yr awdurdodau wedi gwrthod derbyn ei dystysgrif geni am iddi gael ei chyhoeddi gan Gonswliaeth Prydain.

Mae Mr Ingram a'i deulu yn gobeithio mynd ar wyliau i Sbaen ym mis Mehefin, a dyma'r tro cyntaf iddo wneud cais am basport Prydeinig.

Ar raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales, dywedodd: "Er bod fy rhieni o Brydain ac wedi'u geni ym Mhrydain, maen nhw [yr awdurdodau] am weld prawf o fy ngenedigaeth i, a dyw nhw ddim yn derbyn fy nhystysgrif geni o'r Swyddfa Gofrestru Cyffredinol am nad yw'n profi fy nghenedligrwydd.

"Er i mi weithio yma gydol fy mywyd yn talu trethi ac yswiriant gwladol rwy'n dal i orfod profi fy mod yn ddinesydd Prydeinig."

Daeth Mr Ingram i fyw ym Mhrydain gyda'i rieni pan oedd yn ddeufis oed. Cafodd ei eni mewn ysbyty yn Hanover pan oedd ei dad yn gweithio fel peiriannydd gyda'r Llu Awyr.

Yn ôl Mr Ingram, does gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ddim cofnod o'i enedigaeth hyd yma, ac mae angen llythyr ganddyn nhw cyn y gall Mr Ingram fynd ymlaen gyda'i gais am basport.

Ychwanegodd fod y broses wedi costio cannoedd o bunnoedd iddo'n barod.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud eu bod nhw'n edrych i mewn i'r sefyllfa, ac yn gobeithio cyhoeddi ymateb pellach yn ystod y dydd.