Protest yn erbyn cynlluniau i israddio Ysbyty Llwynhelyg

  • Cyhoeddwyd
Protest LlwynhelygFfynhonnell y llun, Daniel Metcalf

Mae degau o bobl sy'n gwrthwynebu cynlluniau i israddio prif ysbyty Sir Benfro wedi cynnal protest yno ddydd Sadwrn.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud newidiadau mawr i'r ysbytai dan ei ofal, gan gynnig tri opsiwn gwahanol.

Byddai'r holl opsiynnau hynny'n gweld Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn cael ei israddio o ysbyty cyffredinol i ysbyty cymunedol, gan olygu y byddai'n colli'r uned frys hefyd.

Mae dros 18,000 o bobl wedi arwyddo deiseb sy'n gwrthwynebu'r newidiadau.

Grŵp Llafur Preseli Penfro oedd wedi trefnu'r brotest, ddaw ychydig dros wythnos ers i'r cynlluniau gael eu cyhoeddi.

'Ymgyrchu'

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp: "Rydyn ni'n gwrthwynebu'n gryf unrhyw gynnig o'r fath, a byddwn yn ymgyrchu yn erbyn unrhyw ymdrech gan Hywel Dda i israddio'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan yr ysbyty a'u symud o Sir Benfro."

Dan y cynlluniau, byddai ysbyty cyffredinol newydd yn cael ei adeiladu ar y ffin rhwng Sir Gâr a Sir Benfro, tra bo Ysbyty Glangwili Caerfyrddin hefyd yn colli gwasanaethau mewn rhai o'r opsiynau.

Mae prif weithredwr y bwrdd iechyd, Steve Moore wedi dweud nad yw peidio ad-drefnu yn opsiwn, a'u bod wedi ystyried hynny.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn rhedeg am 12 wythnos.