CPD Bangor: 'Cefnogwyr a swyddogion yn symud ymlaen fel un'

  • Cyhoeddwyd
CPD BangorFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i Fangor ennill Uwch Gynghrair Cymru oedd yn 2011

Mae swyddogion Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn dweud bod y perchnogion am aros yn ffyddlon i'r clwb.

Mae'r ansicrwydd am ddyfodol y clwb yn dilyn penderfyniad y Gymdeithas Bêl-droed i wrthod trwydded fyddai ei angen i chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Cafodd cyfarfod rhwng cefnogwyr a swyddogion y clwb ei gynnal yn Nantporth Nos Lun i drafod y mater.

Dywedodd Gwynfor Jones, ysgrifennydd CPD Bangor fod cefnogwyr yn unol tu ôl i'r perchnogion a'r cyfarwyddwyr a'u bod yn symud yn eu blaenau fel "un clwb".

Roedd datganiad gan y clwb dros y penwythnos yn dweud eu bod am herio penderfyniad y Gymdeithas Bêl-droed ac roedd y cyfarfod yn gyfle i drafod y mater gyda'r cefnogwyr.

Disgrifiad,

Gwynfor Jones: 'Cefnogwyr i gyd yn unol tu ôl i'r perchnogion'

Dywedodd Ysgrifennydd CPD Bangor, Gwynfor Jones wrth y BBC fod cefnogwyr CPD Bangor yn unol tu ôl i berchnogion a chyfarwyddwyr y clwb yn dilyn cyfarfod nos Lun.

Yn ôl Mr Jones, roedd y neges yn gryf yn y cyfarfod eu bod nhw'n dal yn unedig ac yn symud yn eu blaenau fel "un clwb".

O ran ateb cwestiynau'r cefnogwyr am y penderfyniad i wrthod y cais am drwydded, dywedodd Mr Jones mai'r unig beth y gallai swyddogion y clwb ei wneud oedd ailadrodd cynnwys y llythyr gafodd ei yrru gan y Gymdeithas Bêl-droed.

Disgrifiad,

Cefnogwyr CPD Bangor 'ddim llawer callach' am ddyfodol y clwb

Dywedodd Geraint Parry, un o'r cefnogwyr a fynychodd y cyfarfod, fod "pob dim yn dibynnu ar yr achos llys" a ddaw wrth i'r clwb herio'r penderfyniad.

Roedd y cyfarfod 'dan ei sang' yn ôl Mr Parry, ond doedden nhw "ddim llawer callach" yn dilyn y drafodaeth a bod cyfarfod arall yn cael ei drefnu yn fuan.