Gwrthod cais 'gwarthus' yr RSPB am dâl parcio Ynys Lawd

  • Cyhoeddwyd
RSPBFfynhonnell y llun, Google

Mae cais i godi tâl o hyd at £5 am barcio ger atyniad poblogaidd ar Ynys Môn wedi ei alw'n "warthus" gan gynghorwyr.

Elusen yr RSPB sy'n gobeithio codi tâl am barcio ar ddau safle ger Ynys Lawd, ar gost o £5 yn yr haf a £2.50 dros y gaeaf.

Ond cafodd y cynlluniau eu galw'n "anghyfiawn ac annheg" gan aelod o bwyllgor cynllunio Ynys Môn, gyda "goblygiadau iechyd a diogelwch difrifol".

Ychwanegodd y Cynghorydd Robin Williams bod cynlluniau'r RSPB yn "ffiaidd" ac yn "warthus", er nad oedd rheswm gan y pwyllgor cynllunio i'w wrthod.

Dywedodd: "Mae'n warthus, dim mwy na lladrad clir, ond does dim seiliau cynllunio i ni ei wrthod."

'Treth ar y cyhoedd'

Ychwanegodd y pwyllgor y byddai'r gost yn creu problemau y tu allan i'r maes parcio wrth i bobl geisio osgoi talu, ac o bosib yn atal pobl leol ac ymwelwyr rhag dod.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas: "Mae'r RSPB yn gwneud gwaith gwych ond dydyn nhw ddim bob tro yn ei chael hi'n iawn.

"Mae'r peiriannau yma yn dreth ar y cyhoedd fydd yn effeithio'r tlawd fwyaf."

Dywedodd Laura Kudelska o'r RSPB: "Rydyn ni'n ymwybodol o'r pryderon ond mae'r cais ar gyfer y peiriannau taliadau parcio ac nid y taliadau."

Cafodd y cais ei wrthod gan y pwyllgor, ond gan eu bod wedi mynd yn groes i gyngor swyddogion bydd y cais yn mynd o flaen y pwyllgor eto o fewn mis.