Cynllun lles newydd ar gyfer y cenedlaethau nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae sefydliadau ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf wedi cyfuno i lunio cynllun lles ar gyfer y cenedlaethau nesaf.
Cafodd y cynllun pum mlynedd ei lunio er mwyn creu swyddi, cynnig hyfforddiant, rhoi dechreuad gwell i fabanod a gwella iechyd meddwl pobl ifanc.
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf sydd yn gyfrifol am y cynllun, sydd yn cynnwys cyfuniad o sefydliadau gwirfoddol a rhai o fewn y sector gyhoeddus.
Bwriad y cynllun yw delio â phroblemau cymdeithasol ar y cyd yn hytrach nag ymateb i achosion fel sefydliadau unigol.
Bydd yn cael ei dreialu yn ardaloedd Glynrhedynog a Tylorstown yn Rhondda a Gurnos ym Merthyr Tudful cyn cael ei ehangu ar draws Cwm Taf os yn llwyddiannus.
Y Cynllun
Cynyddu'r gweithlu drwy ddarparu fwy o addysg a hyfforddiant yn yr ardal;
Cefnogaeth i fabanod drwy ganolbwyntio ar y '1000 diwrnod cyntaf'. Bydd adolygiad o'r gwasanaethau presennol er mwyn deall yn union pa newidiadau sydd eu hangen i sicrhau'r ddarpariaeth orau i rieni a babanod;
Ymyrraeth gynnar er mwyn lleihau'r angen am wasanaethau plant a'r glasoed gan gynnwys iechyd meddwl;
Datblygu gwasanaethau cyfunol sy'n cynnwys ysgolion, gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol;
Ymgyrchoedd i annog byw yn iach.
'Effaith hir dymor'
Mae'r cynllun lles, sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher, yn bwriadu cydweithio â thrigolion i adnabod problemau, blaenoriaethau a datrysiadau yn yr ardaloedd sydd wedi eu targedu.
Dywedodd yr Athro Marcus Longley, cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf, mai nod y cynllun yw "gwella'r sefyllfa ar gyfer cenedlaethau i ddod" a sicrhau fod penderfyniadau sy'n cael eu gwneud heddiw ag "effeithiau tymor hir mewn golwg".
Ychwanegodd: "Er bod yna eisoes gydweithio rhwng ein sefydliadau, bydd y cynllun newydd yma yn newid y ffordd rydym ni'n ymdrin â rhai o faterion fwyaf heriol ein cymdeithas."
Mae Uwch-Arolygydd Heddlu De Cymru, Phillip Ashby yn ategu'r sylwadau hyn: "Mae'r cynllun hwn yn agor y drws i ddull newydd o ddatrys problemau.
Bydd hyn yn help wrth sicrhau fod ein penderfyniadau yn cael effaith hir dymor, ac wir yn gwella safon byw a gobeithion pobl ar hyd Cwm Taf."
Mae mwy o wybodaeth am y cynllun ar wefan 'Ein Cwm Taf', dolen allanol.