80 tunnell o goed a mwd yn cau ffordd yng Nglyncorrwg

  • Cyhoeddwyd
Tirlithriad ar ffordd Cymer

Mae tirlithriad wedi cau ffordd yng Nghastell-nedd Port Talbot ar ôl i 80 tunnell o goed a mwd syrthio ar y lôn.

Fe syrthiodd y deunydd o lethr yng Nghwm Afan yn gynnar fore Mercher gan gau Ffordd Cymer yng Nglyncorrwg.

Mae Glyncorrwg rhyw naw milltir o Ystalyfera, ardal lle mae tirlithriadau wedi bod yn y gorffennol sydd wedi golygu bod trigolion wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Y disgwyl yw y bydd y ffordd yn aros ar gau tan ddydd Gwener.