Myfyrwyr Abertawe yn cefnogi refferendwm swyddog Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
undebFfynhonnell y llun, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Mae myfyrwyr Abertawe wedi pleidleisio o blaid cynnal refferendwm ynglŷn â chyflogi swyddog materion Cymraeg llawn amser i'r Undeb Myfyrwyr.

Ar hyn o bryd mae'r swydd yn un rhan amser ac fe wnaeth cynnig i gynnal pleidlais i'w gwneud yn swydd llawn amser ysgogi dadl ffyrnig o blaid ac yn erbyn.

Ond fe fydd refferendwm yn cael ei threfnu wedi i 55 o fyfyrwyr gefnogi'r cynnig yng nghyfarfod cyffredinol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe nos Fawrth.

Fe wnaeth 37 o aelodau wrthod y cynnig ac fe wnaeth 20 ymatal eu pleidlais.

Dywedodd yr undeb y bydd yn cyhoeddi dyddiad y refferendwm "cyn bo hir" ac yn cydweithio gyda'r myfyrwyr gyda'r trefniadau.

Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, cafodd y cynnig ei gyflwyno gan Swyddog Rhan-Amser Tomos Watson a'i eilio gan y Llywydd etholedig, Gwyn Aled.

Yn ol Undeb y Myfyrwyr "roedd yna ddigonedd o ddadlau ymysg y myfyrwyr cyn i'r cynnig gael ei bleidleisio arno."