Ateb y Galw: Hari Emlyn Davies

Hari Emlyn DaviesFfynhonnell y llun, Hari Emlyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Hari Emlyn Davies

  • Cyhoeddwyd

Prif leisydd grŵp newydd sbon o'r enw Y Ddelwedd yw Hari Emlyn Davies.

Fe ffurfiodd Y Ddelwedd pan wnaeth Hari, sy'n dod o Bwllheli, gyfarfod Owen a Cian o ardal Blaenau Ffestiniog tra'n astudio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

A hwythau'n megis dechrau eu siwrna cerddorol, maent wedi profi llwyddiant yn barod drwy ddod yn fuddugol ym Mrwydr y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 2025.

Fe gymerodd y prif leisydd Hari saib o'r ymarferion a'r cyfansoddi er mwyn ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf i yw Nain yn fy ngwthio i mewn pram. Roedd gan y pram 'ma fwrdd oedd yn gallu sleidio'n ôl a 'mlaen a dwi'n cofio bwyta Mini Cheddars oddi arno fo tra roedd Nain yn gwthio'r pram ar y ffordd i'r parc ger yr ysbyty yng Nghaernarfon. Amseroedd symlach man, dim lefelau A, jyst fi a 'nghracyrs yn erbyn y byd.

Plentyn bachFfynhonnell y llun, Hari Emlyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Jyst fi a 'nghracyrs yn erbyn y byd." - Hari yn blentyn

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le i yng Nghymru… Pen Llŷn. Dwi'n dweud hynny heb unrhyw fath o duedd (er mod i'n byw yma). Mi gefais i'm magu rhwng Caernarfon a Phorthmadog ond ers symud yma jest cyn y cyfnod clo dwi'n gweld Cymru er ei gorau i ddweud y gwir. Yr iaith, y bobl, y traethau a'r bryniau. Gogoneddus.

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Wel, dwi wedi profi sawl noson dros y blynyddoedd (tua 6,500 ohonyn nhw i fod yn benodol) felly mae'n rhaid iddi fod wedi bod yn un arbennig iddi hi aros yn y cof. Dwi 'di cael sawl noson hwyl yn Nhrefor o bob man gyda'n ffrindiau i o'r ysgol ond rhwng yr yfed a'r amser sydd wedi bod ers hynny mae'n anodd cofio unrhyw fanylion.

Un dwi yn ei chofio oedd gig Cowbois Rhos Botwnnog yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli (showt-owt i'r band ac i'r Neuadd, mae'r ddau yn hollol wych. Cefnogwch eich theatrau lleol, plis, maen nhw'n gwneud gwaith gwych!) ym mis Ebrill llynedd. Es i gyda 'nghariad a roedd o'n berfformiad gwych gan y band. Roedd y wefr yn hedfan drwy'r ystafell a dwi'n dal i feddwl yn ôl at y noson honno.

Cowbois Rhos BotwnnogFfynhonnell y llun, Hari Emlyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Fy hun mewn tri gair? Gor-hyderus, mentrus a mawr. Hwnnw'n ryw fath o gynghanedd sain hefyd dydi? Da 'dwi de.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Mynd i weld y Manic Street Preachers ym Manceinion (eto, gyda 'nghariad). Fy nhro cyntaf i yn y ddinas a'r tro cyntaf i mi weld gig tu allan i'm milltir sgwâr. Y Manics ydi'n hoff fand i a felly roedd o'n wych cael rhannu'r profiad gwefreiddiol hwnnw gyda rhywun sydd hefyd yn golygu gymaint i mi. (Doedd hi'm yn joio gymaint â fi, PCP yn acwstig am y tro cyntaf erioed, HELO?)

James Dean Bradfield Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

James Dean Bradfield yn canu gyda'r Manic Street Preacher ym Manceinion

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnat ti erioed?

Dydw i'm yn un sy'n teimlo llawer o gywilydd i ddweud y gwir. Dwi'n un sy'n cymryd bywyd fel y daw a pheidio gadael i bethau 'mhoeni i'n ormodol. Er dweud hynny, doedd gorfod mynd i'r ysbyty ar ôl cracio mhen i'n agored mewn gêm "bulldog" ar ddiwrnod gwlyb ddim yn rhywbeth 'nes i fwynhau ar y pryd a dydi gorfod egluro'r graith ar gefn fy mhen i bob un sy'n torri ngwallt i ddim yn rhywbeth dwi'n ei fwynhau hyd heddiw.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wel pan ddes i oddi ar Lwyfan y Maes ar ôl i Mirain Iwerydd gyhoeddi'n bod ni wedi ennill Brwydr y Bandiau 2025, mi ddisgynnodd ambell i ddeigryn o hapusrwydd wrth i mi ffonio 'nghariad. Dyna'r oll dduda i am hynny, roedd o'n brofiad hollol annisgrifiadwy.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n un ofnadwy am adael pethau nes yr eiliad olaf un. Procrastination fel fyddai'r Sais yn ei alw fo. Gofynnwch wrth unrhyw diwtor yn y coleg, unrhyw aelod o'r band neu unrhyw un o'n ffrindiau a mi ddudai pob un ohonyn nhw'r un peth. Boed o'n waith cwrs, tasgau band, codi o'r gwely; 5 munud bach iddi. Er dweud hynny, mae'r gwaith dwi'n ei wneud o fewn yr hanner awr dwi wedi'i adael yn troi allan i fod yn reit dda 'swn i'n ei ddweud. (I fod yn hollol onest, mi nes i'r un peth gyda'r cyfweliad hwn. Sori, Alun!)

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Theleri Thŵp gan y diweddar Dewi Pws. Llyfr bach digri ydi o, llawn o hunan-gofiannau, llythyrau a lluniau o fywyd y dyn ei hun. Mae colled mawr ar ei ôl o, yma yn Llŷn yn enwedig. Ro'n i'n ddigon lwcus i fod efo 'nghopi ohono a beiro arnaf i wrth sgwrsio gyda Dewi yn Eisteddfod Boduan 2023 felly mae'n eistedd yn daclus yn fy llofft i fel atgoffyn o nerth y Cymro.

Hari Emlyn DaviesFfynhonnell y llun, Hari Emlyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe arwyddodd Dewi Pws gopi o'i lyfr Theleri Thŵp i Hari yn Eisteddfod Boduan, 2023

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

George Harrison. Dyna ddyn o'dd yn ei dallt hi go iawn, ynde? Dwi'n siwr byddai gan y Beatle 'tawel' ambell i beth i'w ddweud dros beint neu ddau. 'Swn i'n chwalu'i ben o am India, sut berson oedd Lennon go iawn, y dyddiau cynnar. Bob dim. Os nid Harrison, 'sa Osian Huw yn g'neud tro dwi'n siwr.

George Harrison Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Beatle 'tawel' - George Harrison

Dywedwch rywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i obsesiwn gyda "Five Nights at Freddy's". Wrth fy modd. Gymaint o bethau i'w dysgu am y stori ym mhob gêm a llyfr felly ar noson dawel yn dilyn shifft brysur o waith, diwrnod prysur neu pan dwi'n teimlo 'chydig yn isel, dwi'n rhoi fideo yn trafod gwahanol theories amdanyn nhw sydd wastad yn fwy nag awr a jyst gwrando.

Dwi hefyd yn ffan enfawr o dub a reggae – Cymraeg a Jamaicaidd i ddweud y gwir. Ffan 'run mor fawr o Jarman ag ydw i o Desmond Dekker. Who Jah bless, no man curse.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Fy ateb hollol onest i fyddai dysgu sut i jyglo ond mae'r cariad yn dweud bo' hynny'n wirion felly rhaid mi feddwl yn ddyfnach. Ateb callach (ond llai onest) fyddai mynd i'r traeth. Mynd am ginio mawr gyda phawb dwi'n eu caru a mynd i'r traeth gyda phâr o glustffonau. Wrth i'r byd ddod i ben (dwi'n amau mai hynny sy'n digwydd), mi fyddwn i'n eistedd i lawr ar y traeth gyda photel o win coch ac unai'r albwm Pan Fydda Ni'n Symud gan Iwan Huws neu Moving Pictures gan Rush yn chwarae yn fy nghlustiau. Bril.

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Hwn. Un o'n ymarferion cyntaf ni fel band (yr ail dwi'n meddwl?) yn stiwdio Sbensh. Camau bach bois, camau bach.

Y Ddelwedd yn ymarferFfynhonnell y llun, Hari Emlyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r grŵp yw Hari, Enlli, Owen, Cian, Eban ac Isaac

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Wel does 'na neb penodol i ddweud y gwir ond mi fyddwn i'n meddwl o bryd i bryd sut mae pobl eraill yn fy ngweld i. Dwi'n amlwg yn profi perthnasau gwahanol gyda pobl gwahanol ond 'swn i'n licio gweld fy hun drwy lygaid person arall (dieithryn i ddweud y gwir) achos dydi o ddim yn rhywbeth a welai unrhyw berson yn ei fywyd erioed, sef ei hun o berspectif allanol. 'Sa fo'n ddiwrnod hir.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig