Y Cymry sy'n ceisio achub fwlturiaid sydd mewn perygl o ddiflannu

Luce Green
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n hoffi meddwl amdano fel llafur cariad," meddai Luce Green sy'n rhedeg Falconry Experience Wales

  • Cyhoeddwyd

Mae perchnogion canolfan hebogyddiaeth ym Mhowys yn gobeithio bridio fwlturiaid prin sydd mewn peryg o ddiflannu.

Mae fwlturiaid cycyllog (hooded vultures) - fel rhywogaethau fwltur eraill ar draws Affrica ac Asia - mewn perygl difrifol, gyda llai na 150,000 yn y gwyllt.

Yn India, y gred yw bod gostyngiad yn nifer y fwlturiaid wedi cyfrannu at farwolaethau 500,000 o bobl gan fod yr adar yn clirio cyrff anifeiliaid marw - ac felly yn helpu i atal lledaeniad gwahanol glefydau.

Dywedodd Luce Green o Falconry Experience Wales mai "dyma yw'r hyn dwi wedi gweithio amdano drwy fy mywyd" a'i bod yn ei ystyried yn "lafur cariad".

Fwlturiaid cycllog yn eu cynefin naturiol yn ZambiaFfynhonnell y llun, Chikunto Safari Lodge
Disgrifiad o’r llun,

Fwlturiaid cycllog yn eu cynefin naturiol yn Zambia

Dangosodd yr asesiad diweddaraf o fwlturiaid cycyllog Affricanaidd yn 2021 fod nifer yr oedolion aeddfed wedi gostwng i 131,000 - a bod y ffigwr hwnnw yn parhau i ddisgyn.

Yn ôl yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur ac Adnoddau Naturiol, maent yn cael eu hystyried mewn perygl difrifol.

Gwenwyno yw un o'r prif fygythiadau gyda photswyr yn ofni y bydd cylchoedd fwlturiaid yn datgelu eu lleoliad. Problem arall yw defnyddio fwlturiaid mewn meddygaeth draddodiadol.

Togo a HopeFfynhonnell y llun, Falconry ExperienceWales
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan yn gobeithio cynnal rhaglen fridio lwyddiannus gyda'r gwryw, Togo a'r fwltur benywaidd, Hope

Luce Green a'i phartner Barry Macdonald sy'n rhedeg Falconry Experience Wales, ac maen nhw wedi treulio degawdau yn astudio a gofalu am yr adar prin.

"Rydym yn eu colli ar gyfraddau mor gyflym," meddai Ms Green.

Mae'r ganolfan wedi cyflwyno gwryw, a gafodd ei fagu â llaw, o'r enw Togo, i fenyw o'r enw Hope. Os ydyn nhw'n llwyddiannus, byddai'r pâr yn disgwyl cael un cyw ar y tro yn unig.

Ond gyda'r sefyllfa yn Affrica mor ddifrifol, mae pob cyw yn cyfri.

"Dim ond 200 o fwlturiaid cycyllog sydd mewn amgylchedd dynol ac mae'r ras wedi dechrau," ychwanegodd Ms Green.

"Yr uchelgais yw i'r cywion ddod yn rhan o raglen ryddhau yn y pen draw, ond am y tro mae'n fwy o achos o ychwanegu at y boblogaeth sydd yma.

"Allwn ni ddim rhoi adar yn ôl yn yr amgylchedd yna oherwydd nid yw'n ddiogel iddyn nhw, felly mae'n rhaid i ni reoli poblogaethau'r fwlturiaid cycyllog."

Fwlturiaid fel 'y caneri yn y pwll glo'

Mae bridio fwlturiaid yn hanfodol yn ôl Campbell Murn, Pennaeth Ymchwil ac Addysg Cadwraeth y Hawk Conservancy Trust a darlithydd mewn Gwyddor Cadwraeth ym Mhrifysgol Reading.

"Mae'n hynod bwysig bridio o'r adar hyn a chynnal math o rwyd ​​​​ddiogelwch ar gyfer y boblogaeth," meddai.

Dywedodd fod tri rheswm clir dros wneud popeth o fewn ein gallu i achub fwlturiaid: er eu mwyn nhw, er lles iechyd pobl ac er lles yr amgylchedd.

Mae fwlturiaid fel y "caneri yn y pwll glo", meddai Murn, "os yw eich fwlturiaid yn marw ac yn diflannu yna mae gennych chi broblemau go iawn".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig