Annette Bryn Parri: Cofio a dathlu ei bywyd

- Cyhoeddwyd
Ym mis Mai eleni bu farw y gyfeilyddes a'r hyfforddwraig o Ddeiniolen, Annette Bryn Parri, yn 62 oed.
Mewn rhaglen arbennig Bore Cothi ar Radio Cymru mae rhai o ffrindiau a theulu Annette yn edrych yn ôl ar ei bywyd a'i gyrfa.
Dyma ddetholiad o rai o'r teyrngedau o'r rhaglen.
Teulu a gwreiddiau
Roedd ei theulu a'i chartref yn bwysig iawn i Annette ar hyd ei hoes ac, ar ôl perfformio ar lwyfannau ar hyd y wlad, fe ddychwelodd i Ddeiniolen at ei gŵr Gwyn, a fu farw yn 2021, a'r plant Heledd, Ynyr a Bedwyr.
Ac mae Ynyr a Bedwyr yn cofio eu cartref fel lle arbennig iawn.
Meddai Bedwyr: "Mae'n beth rhyfedd i esbonio ond 'dan ni wedi bod fel plant yn Cynefin (cartref y teulu) ers cael ein geni. Tra'n tyfu fyny 'dach chi'n meddwl bod yr awyrgylch yn y tŷ yn normal efo Mam yn chwarae piano a Dad yn coginio - atgofion melys iawn.
"Dwi'm yn meddwl bo' chi'n gweld o mor sbeshal pan 'dach chi'n tyfu fyny ond wrth edrych yn ôl ar yr amser mae wedi bod yn sbeshal iawn i ni fel plant i dyfu fyny yn Cynefin.
"O'n i wastad yn siarad efo ffrindiau ac yn deud, ie oedd Bryn Terfel yn y tŷ a tra oedd Mam yn gwneud panad iddo fo oeddwn i'n cael gêm o Nintendo neu cael gêm o pool ac oedd pobl yn sbïo'n wirion.
"Ac wedyn ella oedd Bryn yn mynd ac erbyn pump o'r gloch y pnawn oedd Hogia'r Wyddfa yna i fynd drwy'r dyddiadur a chael ymarfer.
"I rywun mae hynna'n anhygoel ond i ni, dydd Sul oedd o.
"Dwi wastad wedi cymryd hynna, fel ma' nhw'n deud for granted, cael gymaint o artistiaid neu pobl gwahanol yn dod acw ond geiriau enwog Mam oedd 'dowch i fyny a mi awn ni drwyddo fo'.
"'Dan ni wedi gweld cymaint o bobl yn dod acw a dwi'n falch iawn mod i wedi cael bod yn rhan o hwnna hefyd, oedd o'n arbennig.
"Oedd hwnna'n deimlad arbennig jest cael gymaint o artistiaid a pobol gwahanol yn dod yn rhan mawr o'n bywydau ni, fel Hogia'r Wyddfa – yncl Arwel, yncl Myrddin, yncl Elwyn."

Bu Annette Bryn Parri yn cyfeilio i Hogia'r Wyddfa am flynyddoedd
Ychwanegodd Bedwyr: "Doedd ymarfer ddim yn awr neu ddwy. Oedd o'n gallu bod yn bedair neu bump awr a Mam yn cychwyn ella saith o'r gloch y bora a wedyn yn neud cinio i ni fel plant.
"Mae hwnna wastad yn rhywbeth - yr ochr cariad Mam, yn amlwg fel mam ond eto'n broffesiynol.
"Oedd Mam wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i'r Noson Lawen ac roedd y criw a'r artistiaid yn aros mewn ryw hotel lle bynnag ond oedd Mam wastad yn dreifio adra.
"Ac yn cyrraedd adra os oedd hi'n ddau o'r gloch, tri o'r gloch y bora ond eto wedyn yn barod i wneud bocs bwyd i ni gael mynd i'r ysgol.
"Petha fel 'na oedd yn bwysig i Mam.
"Yn mynd yn ôl i'r gerddoriaeth a bod yn fam ac roedd y ddau yn cyd-fynd efo'i gilydd ac oedd hwnna'n ofnadwy o bwysig i mam.
"Roedd lot o bobl yn dweud mai cariad cynta' Mam oedd y biano a'r cerddoriaeth ond 'naethon ni drafod efo Mam yn yr ysbyty a Mam yn dweud mai cariad chi fel plant a chariad Gwyn - hwnna oedd y cariad cynta' a ma' hwnna'n rhywbath 'nawn ni fyw a chofio am rest o'n bywydau."

Annette gyda'i diweddar ŵr Gwyn a'r plant Heledd, Ynyr a Bedwyr.
Dywedodd Ynyr: "Dwi'n cofio pan oeddan ni'n blant a Mam yn cychwyn yn fuan iawn yn y bora. A beth oedd hi'n neud oedd rhoi sws i ni pan oedd hi'n gadael tŷ a gadael marc lipstic arna ni bob tro.
"Oedd hi'n dod adra wedyn yn oriau mân y bore ond os oeddach chi'n 'nabod Mam, adra oedd ei lle hi, dyna oedd yn bwysig i Mam.
"Oedd Mam a Dad yn gweithio'n dda efo'i gilydd, yn cyfansoddi y cerddoriaeth â Mam yn neud y miwsig a Dad y geiriau. Oedden nhw'n gweithio fel tîm da."
Cerddoriaeth
Fel cyfeilydd ar lwyfannau mawr a bach mae llawer yn cofio Annette.
Yn ôl pob sôn, hi oedd yr ieuengaf i fod yn gyfeilydd swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Un o'r cantorion bu hi'n cyfeilio iddynt droeon yw'r tenor o Ynys Môn, Gwyn Hughes Jones, ac er i Gwyn fynd ymlaen i berfformio mewn operâu ar draws y byd, mae'n dal i gofio'r dyddiau cynnar hynny gydag Annette.
Meddai: "Yn eisteddfod Bodffordd oedd hi'n cyfeilio i fi a dwi'n cofio cerdded i lawr i flaen y neuadd ac yna o flaen y piano yma oedd yr hogan ddel 'ma yn eistedd ac wrth gwrs mi ddisgynnais i mewn cariad hefo hi'n syth.
"Prin o'n i yn sylweddoli bod 'na Gwyn arall yn y ffrâm a doedd gynnai ddim siawns yn y byd!
"A wedyn dros y blynyddoedd drwy gystadlu mewn Eisteddfodau mi wnaeth ein perthynas gwaith ni ddechra' a'n cyfeillgarwch ni.
"O ran ein perthynas broffesiynol oedd honna'n berthynas agos ofnadwy oherwydd lle bynnag oeddwn i'n mynd hi o'dd yn digwydd bod yn cyfeilio ac oeddan ni'n dod i nabod ein gilydd, i neud mwy o gerddoriaeth gwahanol efo'n gilydd ac wrth gwrs am fod hi mor anhygoel o hyblyg oedd o'n naturiol i ofyn iddi gyfeilio.
"Oedd y gallu hynny ganddi i wneud i ti deimlo'n gyffyrddus ac yn gwbl hamddenol ac yn tynnu unrhyw fath o boen i ffwrdd achos oedd 'na wên fawr ar ei hwyneb hi bob tro. Oeddet ti'n teimlo yn gwbl gyffyrddus efo hi bob tro.
"Roedd y gallu i ddarllen pobl ganddi."

Er fod Annette wedi cyfeilio ar lwyfannau i nifer o sêr, yn eu plith Bryn Terfel, Aled Jones, Rebecca Evans, Eirian James, Rhys Meirion, Gwyn Hughes Jones a Leah Marian Jones, mae ei ffrind, y gantores Sian Wyn Gibson, yn cofio mai adref oedd fwyaf pwysig iddi:
"O'dd ei chalon hi adra, oedd ei chalon yn ei chynefin ac wrth gwrs priododd hi hefo Gwyn a wedyn o'dd hi'n cynnal gwaith adra.
"Ac mi oedd hi'n ffeindio ei ffordd adra boed yn dod o Gaerdydd neu rhywle, mi fysa hi ddim yn aros am y noson a chychwyn y bora wedyn. Fuasai hi'n trafeilio'n syth am adra fel bod hi yna erbyn y bore hefo'r plant.
"Dyna dwi'n meddwl oedd o - y dynfa i ddod adra."
Gwrandewch ar y raglen ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mai