Medal Aur i Hawys yng Ngemau Trawsblaniad y Byd

Hawys (dde) gyda'i medal aur yng Ngemau Trawsblaniad y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes o Geredigion wedi ennill medal aur yng Ngemau Trawsblaniad y Byd sydd wedi ei helpu hi a'i theulu i sylweddoli "bod bywyd yn mynd 'mlan".
Fe enillodd Hawys Richards, sydd newydd dderbyn ei chanlyniadau TGAU, fedal aur yng nhystadleuaeth rasio beic yn erbyn y cloc allan yn yr Almaen.
Fe gafodd hi drawsblaniad aren gan ei mam pan oedd hi'n ddeuddeg oed ac yn ôl ei mam, Nia fe "aeth drwy amser anodd yn gorfforol a meddyliol" ond mae'r gemau wedi ei helpu.
Dywedodd Hawys ei fod yn "brofiad gwych – smo geirie'n gallu disgrifio fe".
Mae hi hefyd wedi dod yn chweched mewn cystadleuaeth nofio, er nad yw nofio'n un o'i champau ac mae wedi dod yn ail mewn cystadleuaeth taflu pwysau.
Taith Hawys at drawsblaniad
Ar ôl ennill y fedal aur yn y gystadleuaeth rasio beic fe sgwrsiodd Hawys ar raglen Post Prynhawn, BBC Radio Cymru.
Meddai: "Odd hi'n fore eitha' tawel, ond wedyn erbyn ifi ddechre rasio odd e'n rili gwyntog a odd e'n bach yn galed i ddechre reido trwyddo fe.
"Fi'n credu sywleddoles i bo' fi ar y blaen ar ôl jumpo off y beic ac edrych ar y bwrdd gydag amseroedd ni gyd a weles i fe – o'n i mor hapus.
"Fi di bod yn beicio ers o'n i'n dair oed a rasio ers o'n i'n bedair."
Ychwanegodd ei mam, Nia: "Dyma ei gemau cynta' hi, o'n i jysd moyn iddi flasu beth sydd i'w gael ond ni mor falch bo' hi wedi ennill yn y seiclo. Seiclo yw ei champ hi."

Mae Hawys a'i theulu'n seiclwyr brwd ac wrth dyfu i fyny, roedd taith feics deuluol yn ddigwyddiad rheolaidd.
Meddai Nia: "O'n ni'n seiclo fel teulu dros Covid, tair gwaith yr wythnos . O'n ni'n neud byti 50 milltir yr wythnos. Oedd e ddim problem."
Ond fe sylwodd Nia ar rai newidiadau yn Hawys wnaeth wneud iddi ddechrau poeni am ei merch yn ystod cyfnod y pandemig.
Eglurodd: "Dechreuodd hi arafu ar y beic, newid deiet, doedd hi ddim yn hoffi blas squash i gymharu â dŵr, a hefyd roedd ei choes hi'n chwyddo."
Ar y pryd doedd ei doctoriaid ddim yn poeni'n ormodol. Ond fe aeth ei symptomau'n waeth ac fe anfonwyd Nia i'r ysbyty am brofion.
Meddai Nia: "O fewn tair awr yn yr ysbyty dyma nhw'n deud 'mae ganddoch chi ferch sâl iawn yn fan hyn', roedd blood clots yn ei bladder hi, doedd ei harennau hi ddim yn gweithio."
Ar ôl chwech wythnos yn yr yr ysbyty, daeth Hawys adref gan dderbyn triniaeth dialysis bob nos yn ei chartref o fis Ionawr hyd at fis Rhagfyr 2021. Derbyniodd Hawys aren gan ei mam ar 7 Rhagfyr 2021.
Wrth adlewyrchu ar y cyfnod anodd yma'n eu bywydau, meddai Nia: "Ni'n prowd iawn ohoni. Yn enwedig beth mae hi wedi bod drwyddo yn blentyn 12 oed.
"Eich bywyd chi'n troi upside down fel maen nhw'n dweud, a cholli dwy aren a gorfod ymdopi efo dialysis am flwyddyn, ac wedyn paratoi eich corff chi i dderbyn aren newydd. Buon ni'n ffodus iawn fod fy aren i yn beth maen nhw'n ei alw'n compatible."
Seiclo unwaith eto
Yn dilyn y trawsblaniad ac wrth wella, roedd Hawys wedi colli diddordeb mewn beicio.
Eglurodd: "Odd bwlch o tua dwy flynedd lle o'n i heb 'neud dim byd. O'n i jyst ddim moyn edrych ar y beic - odd e ddim yn neud i fi deimlo'n hapus."
Ond fe wnaeth gwylio ei chwaer yn rasio ysbrydoli Hawys i feicio eto, ac fe glywodd hi am bencampwriaeth Gemau Trawsblaniad y Byd.
Dros y misoedd diwethaf mae Hawys a Nia wedi bod yn brysur yn codi arian er mwyn gallu cystadlu yn y gemau.
Roedd opsiwn i Nia gystadlu hefyd, fel rhoddwr aren i Hawys. Doedd Nia ddim yn dymuno cystadlu y tro yma am ei fod yn gostus a'i bod yn teimlo mai "dyma amser Hawys" ond mae'n cydnabod ei fod yn hyfryd fod y gemau'n rhoi cyfle i roddwyr organau hefyd.
Ac mae'r ddwy'n edrych ymlaen i Gemau Trawsblaniad Prydain ddychwelyd i Gymru rhywben yn y dyfodol agos. Dyw'r gemau heb fod yng Nghymru ers 2019 pan cynhaliwyd y gemau yng Nghasnewydd.
Y dyfodol
Mae'r dyfodol yn edrych yn un disglair i Hawys ym myd y campau ac ym myd addysg a hithau newydd dderbyn canlyniadau TGAU gwych, ac yn edrych ymlaen at ddechrau ei chwrs Lefel A.
Ond neges fawr Nia yw pa mor bwysig yw hi i fod yn rhoddwr aren os allwch chi.
Meddai: "Os y'ch chi'n fyw mae bywyd yn gallu cario 'mlaen i chi fel rhoddwr. Mae gymaint o bobl ar y rhestr aros i dderbyn organau.
Buodd Hawys ddim ond ar y rhestr am amser byr yn ffodus iawn oherwydd oedden nhw'n dweud bo' donor byw yn bwysicach, ac y byddai Hawys yn derbyn yr aren yn rhwyddach.
"Mae bywyd yn gallu cario 'mlaen, mae Hawys yn gallu cario 'mlaen 'da'i bywyd ei hunan fel person normal, ac mae cymryd rhan mewn gemau fel hyn a gwneud beth mae hi'n caru ei wneud yn codi ei hyder hi."

Fe ddaeth Hawys yn ail yn y gystadleuaeth taflu pwysau, yn ogystal â dod yn chweched yn y gystadleuaeth nofio
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2024
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2023