Dathlu a dadlau: 30 mlynedd o newid i rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd

Wedi wythnos o gyhoeddiadau, dadlau a dyfalu mae dyfodol rhanbarthau rygbi Cymru unwaith eto yn y fantol.

Ddydd Mercher fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru ddatgelu cynllun ar gyfer dyfodol y gêm elitaidd.

Model delfrydol y corff llywodraethu yw bod dau dîm proffesiynol, gyda chynlluniau i atgyfnerthu gêm y merched a'r system ieuenctid.

Gydag ansicrwydd eto am ddyfodol y Dreigiau, Caerdydd, y Gweilch a'r Scarlets, sut cyrhaeddon ni'r sefyllfa yma?

Dyma rai o gerrig milltir y 30 mlynedd ddiwethaf.

1995: Dyfodiad rygbi proffesiynol

clementFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tony Clement yn chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1995 - y tymor olaf pan oedd y gêm yn un amatur

Am dros ganrif, timau amatur oedd yng Nghymru, gyda'r timau "dosbarth cyntaf" fel Caerdydd, Llanelli, Casnewydd ac Abertawe yn darparu'r mwyafrif o'r garfan genedlaethol.

Cyn 1995 roedd tîm Cymru'n llawn plismyn, doctoriaid, dynion tân a chyfrifwyr.

Ond ym mis Awst 1995 cafodd y gêm ei thrawsnewid a olygai y byddai'r chwaraewyr yn gwbl broffesiynol.

Mae rhai yn awgrymu nad oedd Undeb Rygbi Cymru'n barod am y newid yma.

Roedd timau o Gymru oedd yng nghanol y broses o droi'n broffesiynol bellach yn herio clybiau o Ffrainc a Lloegr, oedd â mwy o arian.

Dyddiau anodd yr 90au a'r 00au cynnar

robinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Robinson yn chwarae dros Abertawe yn erbyn Saracens, 24 Ionawr 1999

Roedd y 1990au a dechrau'r 2000au yn gyfnod anodd i dimau Cymru.

Roedd addasu'r system glybiau draddodiadol i ymdopi â gofynion rygbi proffesiynol yn dipyn o her.

Yn 1998 fe adawodd Abertawe a Chaerdydd gynghrair Cymru gan chwarae cyfres o gemau cyfeillgar yn erbyn timau o Loegr am dymor.

Y tymor canlynol daeth y ddau yn ôl i chwarae yng Nghymru, gyda Chaerdydd yn ennill y gynghrair ac Abertawe'n gorffen yn bedwerydd.

Hefyd yn nhymor 1999/00 fe ymunodd dau dîm o'r Alban â'r gynghrair - Glasgow Caledonians a'r Edinburgh Reivers.

2001: Y Cynghrair Celtaidd

o'driscollFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Brian O'Driscoll a Leinster oedd buddugwyr cyntaf y Gynghrair Geltaidd yn 2002

Yn 2001, ffurfiwyd y Gynghrair Geltaidd - cystadleuaeth a oedd yn cynnwys naw tîm o Gymru, pedwar o Iwerddon a dau o'r Alban.

Bu'r tymor cyntaf yn un heriol i dimau, gyda Leinster yn bencampwyr yn 2002.

Yn nhymor 2002/03 ymunodd trydydd tîm o'r Alban y gynghrair, y Border Reivers, ac er i Gastell-nedd gyrraedd y rownd derfynol yn 2003, tîm arall o Iwerddon oedd yn fuddugol y tro hwn, Munster.

2003: Geni'r rhanbarthau

catpteiniaidFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Capteiniaid rhanbarthau Cymru yn 2003

Wedi dwy flynedd o'r Gynghrair Geltaidd daeth y penderfyniad i gwtogi nifer y timau yng Nghymru o naw clwb i bum rhanbarth newydd.

David Moffett oedd yn gyfrifol am 'Project reset', oedd yn benderfyniad radical i gyflwyno'r rhanbarthau i'r Gynghrair Geltaidd; Gleision Caerdydd, Y Gweilch, Y Dreigiau, Scarlets a'r Rhyfelwyr Celtaidd.

2004: Diddymu'r Rhyfelwyr Celtaidd

JenksFfynhonnell y llun, AFP via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Neil Jenkins yn chwarae dros y Rhyfelwyr Celtaidd

Wedi dim ond un tymor yn y Gynghrair Geltaidd, daeth penderfyniad i gwtogi'r nifer o ranbarthau o bump i bedwar.

Y tîm oedd wedi gorffen yn y pedwerydd safle (allan o 12) - y Rhyfelwyr Celtaidd - fyddai'n cael ei ddiddymu.

Fe achosodd y penderfyniad dipyn o ddrwgdeimlad yn y cymoedd, gan mai Gleision Caerdydd oedd bellach yn cynrychioli'r ardal.

Roedd llawer o'r cefnogwyr yn y cymoedd yn teimlo nad oedd y Gleision yn cynrychioli eu hardal nhw yn effeithiol, a bod gan y cymoedd ei hunaniaeth benodol a oedd yn dra gwahanol i'r brifddinas.

2005: Cymru'n ennill y Gamp Lawn

chwe gwladFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Thomas a Michael Owen yn codi tlws y Chwe Gwlad yn 2005

Tra bo rhanbarthau Cymru mewn trybini, fe brofodd y tîm cenedlaethol gyfnodau o lwyddiant mawr.

Yn 2005 fe enillodd Cymru y Gamp Lawn yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers 1978.

Roedd y tîm yn cynnwys nifer o sêr fel Shane Williams, Gethin Jenkins a Martyn Williams.

Roedd gobaith y byddai hyn yn sbardun i gyfnod aur arall i rygbi Cymru, ond cafwyd tair blynedd anodd yn dilyn y llwyddiant.

2007-2019: Cyfnod cyntaf Warren Gatland

Warren Gatland Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Warren Gatland ar ddechrau ei gyfnod cyntaf gyda Chymru

Daeth Warren Gatland i Gymru wedi Cwpan y Byd 2007 ac fe gafodd effaith yn syth, gyda Chymru'n cipio'r Gamp Lawn unwaith eto yn 2008.

Yn y tymhorau a ddilynodd fe ddatblygodd Gatland garfan gref, gan ennill y Chwe Gwlad yn 2012 a 2013, a cholli o bwynt yn unig yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2011.

Newid enwau'r rhanbarthau

Roedd teimlad gan lawer o gefnogwyr bod enwau'r rhanbarthau'n canolbwyntio gormod ar un ardal benodol, felly fe benderfynwyd newid yr enwau ar wahanol adegau rhwng 2008 ac 2024.

Cafodd Scarlets Llanelli ei newid i 'Scarlets' yn unig, Dreigiau Casnewydd Gwent i'r 'Dreigiau', Gweilch Tawe-Nedd i'r 'Gweilch', a Gleision Caerdydd i'r 'Gleision', ac yn fwy diweddar 'Rygbi Caerdydd'.

Colli chwaraewyr i Loegr a Ffrainc

dafydd jenkinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Jenkins, chwaraewr ail-reng Cymru a Chaerwysg

Yn ogystal â'r sêr o Gymru, mae'r rhanbarthau wedi cael llu o enwau rhyngwladol mawr dros y blynyddoedd.

Gyda'r Dreigiau roedd Percy Montgomery a Rod Snow, yn y Scarlets roedd Regan King a Tadhg Beirne, roedd Jonah Lomu a Ben Blair gyda'r Gleision, a Jerry Collins a Justin Marshall gyda'r Gweilch.

Ond dros y blynyddoedd fe gafodd nifer o chwaraewyr rhyngwladol Cymru gyfnodau yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr a Top 14 Ffrainc.

Ymysg y rhai cynnar oedd Stephen Jones, Gareth Thomas ac Adam Jones.

Yn dilyn rhain oedd enwau fel Jonathan Davies, Dan Biggar, George North, Taulupe Faletau, Liam Williams, Rhys Webb, James Hook, a Leigh Halfpenny.

Hefyd yn chwarae yn Lloegr ar hyn o bryd mae capten diweddar Cymru, Dafydd Jenkins.

Mae nifer o chwaraewyr ifanc heddiw yn chwarae yn Lloegr.

Yng Nghwpan Rygbi'r Byd dan 20 eleni roedd 10 aelod o garfan Cymru'n chwarae yn Lloegr; pedwar ym Mryste, dau gyda Chaerfaddon, dau gyda Chaerloyw, un gyda Sale ac un gyda Chaerwysg.

2023: Chwaraewyr yn bwgwth streicio

Roedd perygl y byddai chwaraewyr Cymru'n streicio yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, 2023.

Roedd cytundebau rhanbarthol y chwaraewyr heb eu cadarnhau, a dim ond wedi trafodaethau brys y cafodd y gêm yn erbyn Lloegr ei chwarae.

Ym mis Mawrth 2023 pleidleisiodd clybiau cymunedol i ddiwygio sut roedd penderfyniadau'n cael eu gwneud, a chael cyfarwyddwyr a chadeirydd annibynnol.

Yna ym mis Tachwedd 2023 roedd adolygiad i'r diwylliant o fewn Undeb Rygbi Cymru'n hynod feirniadol o lawer o agweddau, ac fe argymhellwyd newid i strwythur y gêm yng Nghymru.

Ail gyfnod Gatland

chwe gwladFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gorffennodd Cymru ymgyrch y Chwe Gwlad 2025 gyda'r golled drymaf erioed yn erbyn Lloegr, 14-68

Rhwng 2019 a 2022 Wayne Pivac oedd wrth y llyw gyda'r garfan genedlaethol, ond yn dilyn cyfres o berfformiadau siomedig penderfynodd yr Undeb Rygbi Cymru i droi at wyneb cyfarwydd unwaith eto, Warren Gatland.

Ond yn 2024 a 2025 fe gafodd Cymru'r llwy bren ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, gyda Gatland yn gadael yn ystod ymgyrch 2025, a Matt Sherratt yn cymryd yr awenau.

Steve Tandy oedd dewis yr Undeb i olynu Gatland, a bydd wrth y llyw am y tro cyntaf yn erbyn Ariannin ar 9 Tachwedd.

Trafodaethau 2025

Yr wythnos yma fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn cynnig torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i ddau.

Does dim eglurdeb a fydd hyn yn golygu cael gwared ar ddau ranbarth sy'n bodoli'n barod, neu ddileu'r pedwar rhanbarth a chreu dau dîm cwbl newydd.

Mae'r cynlluniau wedi ennyn llawer iawn o drafodaeth yma ac ar draws y byd, gyda llawer yn pryderu am ddyfodol y gêm.

30 mlynedd ers proffesiynoli, mae cefnogwyr rygbi yng Nghymru unwaith eto yn wynebu cyfnod o newid.