Rhodd arbennig gan Ryan Reynolds i deulu cefnogwr Wrecsam, 15, fu farw

Rob McElhenney, Aiden Waller a Ryan ReynoldsFfynhonnell y llun, Sarah Waller
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aiden Waller [canol] ym mis Chwefror - ar ôl brwydr tair blynedd gyda chanser

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu bachgen, y cafodd ei lwch ei wasgaru ar gae Clwb Pêl-droed Wrecsam, wedi derbyn rhodd arbennig gan un o berchenogion y clwb, Ryan Reynolds.

Bu farw Aiden Waller, 15 oed, o Essex, ym mis Chwefror - ar ôl brwydr tair blynedd gyda Osteo-sarcoma - canser esgyrn prin wnaeth ymledu i'w ysgyfaint a'i ymennydd.

Yn gefnogwr brwd o Wrecsam, cafodd llwch Aiden ei wasgaru yn gynharach eleni, ond bu'n rhaid newid tir y cae ar gyfer y tymor newydd.

Er cof am Aiden, trefnodd Reynolds bod darn o'r cae lle y gwasgarwyd ei lwch - yn cael ei gadw mewn plac gwydr ac mae'r teulu'n dweud fod hynny wedi cael ei gynllunio o'r dechrau ganddo.

Sarah Waller a Ryan ReynoldsFfynhonnell y llun, Sarah Waller
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Sarah, rhoddodd Ryan Reynolds gymaint o feddwl i'r rhodd a'i wneud yn "hollol berffaith"

Cyflwynodd Reynolds y deyrnged i'r teulu wrth i Wrecsam wynebu West Brom ddydd Sadwrn diwethaf.

Yn siarad â BBC Radio Wales, disgrifiodd mam Aiden, Sarah Waller, y rhodd fel "moment emosiynol iawn" ac un nad oedd y teulu'n ei ddisgwyl o gwbl.

"Fe wnaethon nhw ei gyflwyno i ni mewn cas wydr hyfryd gyda thestun ar y top yn dweud: 'Aiden Waller: Wrexham legend. Friend to Deadpool. Then. Now. Forever'," meddai.

"Roedd y geirio arno yn hollol brydferth," meddai Sarah, gan ychwanegu bod Aiden yn gefnogwr mawr o Marvel a Deadpool - ffilm boblogaidd y mae Reynolds wedi serennu ynddi, ac y byddai Aiden yn "ecstatig" gyda'r anrheg.

Aiden WallerFfynhonnell y llun, Sarah Waller
Disgrifiad o’r llun,

"Aiden oedd y plentyn cryfaf, dewraf, mwyaf ysbrydoledig dwi erioed wedi'i gyfarfod", medd Sarah Waller

Yn ôl Sarah, rhoddodd Ryan Reynolds gymaint o feddwl i'r rhodd - a'i wneud yn "hollol berffaith", gan newid y geiriad arno sawl gwaith.

"Dywedodd o wrthym ei fod yn arbennig iddo fo roi y rhodd i ni," ychwanegodd Sarah.

"Mae'n brydferth. Os byddwn ni'n ei oleuo'n gywir, byddwn ni'n gallu creu enfys ohono - sy'n rhywbeth y gwnaeth Ryan awgrymu."

Y rhoddFfynhonnell y llun, Sarah Waller

Esboniodd Sarah fod Reynolds wedi cadw darn o'r cae yn arbennig i Aiden a'i fod hyd yn oed wedi rhoi rhywfaint yn y gôl.

"Aiden oedd y plentyn cryfaf, dewraf, mwyaf ysbrydoledig dwi erioed wedi'i gyfarfod."

"Bu'n brwydro yn erbyn Osteosarcoma am dair blynedd, gan ymladd pob newydd drwg gyda hiwmor ac ysbryd anhygoel, dro ar ôl tro," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.