3 Llun: Lluniau pwysicaf Greta Siôn

Greta SiônFfynhonnell y llun, Ffoto Nant
Disgrifiad o’r llun,

Greta Siôn yn ystod seremoni'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

  • Cyhoeddwyd

Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Dyma ddewis y dramodydd o Gaerdydd, ac enillydd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025, Greta Siôn.

Tŷ bach yn Felin

tŷ bach yn FelinFfynhonnell y llun, Greta Siôn

Am flwyddyn a hanner tra'n gweithio ar Rownd a Rownd, fy nghartref oedd y tŷ bach glas yma yn Y Felinheli.

Roedd modd eistedd ar do y gegin (er doeddwn ni ddim i fod i - sori i'r landlord!), a dyna le roeddwn yn darllen am oriau wrth i donnau'r Fenai chwifio heibio o fy mlaen yn ystod y dydd, a phan oedd yr haul yn machlud i'w gwsg dros Ynys Môn yn y nos.

Roeddwn wrth fy modd yn byw yng Ngwynedd, a dwi'n meddwl amdano fel adref dal i fod - y bobl, llynnoedd, mynyddoedd, moroedd - i gyd wedi cadw darn o 'nghalon i'n ddiogel.

Yn 22/23 oed, dyma le 'nes i benderfynu'n bendant mai ysgrifennu oeddwn eisiau ei wneud fel gyrfa, a ble cefais i fy nghyfweliad i astudio ysgrifennu creadigol yn Rhydychen.

Rhywsut ges i le ar y cwrs, ac er roeddwn yn gyffrous am y bennod nesaf, yr aberth mwyaf oedd gadael Gwynedd a'r tŷ bach glas yn Felin.

Torrais i 'nghalon yn racs pan symudais o 'na, ond yn ddiarwybod i mi ar y pryd, doedd dim angen i mi boeni yn ormodol - doeddwn byth wedi gadael go iawn.

Stanley Theatre, Prifysgol Lerpwl

Stanley Theatre, Prifysgol LerpwlFfynhonnell y llun, Greta Siôn

Mae theatrau yn llefydd hudol - mae'n rhaid eu bod nhw.

Does dim esboniad arall i sut all bedwar wal, sgript ac actorion fynd â chynulleidfa ar daith i lefydd amhosib, ac i gyd o fewn ychydig oriau, os hynny.

Dwi'n poeni weithiau (yn aml) bod y byd yn colli'i empathi a'r gallu i wrando a chydymdeimlo gydag eraill, ac yn yr adegau yna, dwi'n cofio am y theatr.

Rhywle sy'n codi'r llen ar beth ydi hi i deimlo, i fodoli, i fyw.

I brofi profiadau ein gilydd ac uno yn ein hunigrwydd.

Y gymdeithas ddrama wnaeth fy nghario i drwy'r coleg yn Lerpwl, ac er bod sawl perfformiad eithaf questionable wedi dod ohono (dwi wir yn gobeithio nad ydynt ar YouTube!), dwi'n ddiolchgar am y cwmni a'r cysylltiad roddodd e i mi yn ystod cyfnod mor drawsnewidiol.

Pobl

poblFfynhonnell y llun, Greta Siôn

Dydw i ddim yn 'nabod y bobl yma. Ond dyma un o'n hoff luniau i erioed.

Es i drwy gymaint o luniau o'r bobl dwi'n eu caru, ond roedd yn amhosib i mi ddewis un! Ac yna des i ar draws hwn.

Nes i'w chymryd hi ar Portobello Road yn Notting Hill yn Llundain tra'n aros gyda 'n ffrind Naiomi am ei phen-blwydd.

Roeddwn ni bach yn hungover, ond wedi llwyddo gwneud hi i'r stryd fywiog ble mae un o'n hoff ffilmiau wedi'i leoli.

Yn anffodus, doedd Hugh Grant unman i'w weld, ond mi ddaethon ni ar draws y bwyty yma gyda'r ffenestri'n hollol agored.

O'dd e'n edrych yn cŵl, ac yn 'ffenest' i fywydau'r bobl oedd yn mwynhau tu mewn.

Yn meddwl dim, nes i dynnu'n ffôn allan i dynnu llun o'r bwyty, a dyma'r cwpl yma'n dechrau gwenu yn ôl ar y camera, yn llawn llawenydd.

Ac wrth weld y llun eto, nes i gofio faint dwi'n caru pobl yn gyffredinol, ond yn bennaf y bobl sy'n gwneud i mi wenu fel fel'na hefyd.

Tybed beth oedd eu stori nhw'r diwrnod hwnnw?

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig