Yr hanes tu ôl i'ch gwyliau yn y garafán

Teulu yn carafanioFfynhonnell y llun, WikiCommons
  • Cyhoeddwyd

Mae gwyliau carafán – boed ar faes yr Eisteddfod, y Sioe Fawr neu ger un o'n trefi glan môr niferus – wedi bod yn ffefryn ymhlith y Cymry ers cenedlaethau.

Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn edrych ar ddatblygiad cynnar y garafán yng Nghymru:

Ers canrifoedd, mae poblogaethau Sipsiwn, Sipsiwn Romani a Theithwyr wedi bod yn rhan o gymdeithas Cymru.

Am flynyddoedd, teithio ar droed neu mewn certi a chysgu allan o dan y sêr neu mewn pebyll oedd yr arfer. Ond erbyn canol y 19eg ganrif, dechreuodd poblogaethau'r Sipsiwn Romani ddefnyddio math o garafán o'r enw vardos – cerbyd pedair olwyn a dynnir gan geffyl.

Er nad oedd vardos mor gyffredin yng Nghymru o'i gymharu ag ardaloedd eraill o wledydd Prydain, roeddent yn dal i fod yn rhan bwysig o ffordd o fyw y cymunedau crwydrol Cymreig.

O gerdd enwog Crwys, Y Sipsi i straeon am deulu dawnus Abram Wood a nofel boblogaidd T. Llew Jones, Tân ar y Comin, mae lle i ddadlau bod diwylliant teithiol wedi cael ei ramantu yng Nghymru.

Teulu Sipsiaidd o flaen eu carafánFfynhonnell y llun, WikiCommons
Disgrifiad o’r llun,

Teulu Sipsiaidd o flaen eu carafán

Wedi dweud hynny, nid oedd cymunedau crwydrol bob amser yn cael croeso cynnes ar lawr gwlad. Roedd Sipsiwn Romani neu'r Teithwyr Gwyddelig yn aml yn wynebu rhagfarn wrth i bobl – a'r awdurdodau – fethu â derbyn eu ffordd o fyw.

Yn 1895, yn dilyn achos yn Ynadlys Ystrad gorfodwyd James Bryan, ei wraig a'u pum plentyn i adael Dinas yng Nghwm Rhondda pan benderfynodd y Bwrdd Iechyd Lleol bod eu carafán yn rhy fach i gartrefu'r teulu.

Ceisiodd James ddadlau ei fod ef, ei wraig a'i blant i gyd wedi cael eu geni mewn carafán 'ac wedi mwynhau iechyd o'r radd flaenaf'. Ofer fu ei ymbil a chafodd ef a'i deulu eu gorfodi i adael yr ardal ymhen yr wythnos.

Dr William Gordon Stables gyda The Wanderer - y garafán hamdden gyntafFfynhonnell y llun, WikiCommons
Disgrifiad o’r llun,

Dr William Gordon Stables gyda The Wanderer - y garafán hamdden gyntaf. Teithiodd hyd Prydain Fawr ynddi yn 1885

Yn 1884, penderfynodd Dr William Gordon Stables i gomisiynu'r Bristol Wagon Works Company i adeiladu'r garafán hamdden gyntaf.

Erbyn haf 1885 roedd 'y Wanderer', fel y'i gelwid, wedi'i gorffen i safon foethus iawn.

Yn gwbl ragrithiol, tra'r oedd yr awdurdodau yn targedu teuluoedd fel y Bryans, roedd bonheddwyr cyfoethog yn prysur brynu carafanau hamdden crand. Tua diwedd y ganrif, daeth ceisio dod yn 'gypsy-gentleman' – fel y cyfeiriwyd atynt bryd hynny – yn uchelgais ffasiynol.

Sefydlwyd The Caravan Club of Great Britain and Ireland yn 1907 mewn ymdrech i uno ynghyd y rhai oedd yn hoff o garafanio. Yn ysgrifennu ryw ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd gohebydd The Llandudno Advertiser yn honni bod 'gypsying' mewn carafán wedi datblygu'n weithgaredd poblogaidd tu hwnt.

Roedd rhaid disgwyl tan 1919 tan i'r garafán fasnachol gyntaf gael ei chyflwyno - carafán Eccles - lle'r oedd hi'n bosib ei thynnu tu ôl i gar. Mewn hysbyseb yn y Western Mail ym mis Medi 1920, nodwyd bod carafanau Eccles yn cael eu harddangos yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, gan yr unig werthwyr yn ne Cymru: Garej Hill o dan berchnogaeth Percy M. T. Hill.

Roedd carafán Eccles gynnar yn costio o gwmpas £231, swm a oedd gyfystyr â dwy flynedd o gyflog i weithiwr medrus.

Carafán Eccles yn dyddio o tua 1926Ffynhonnell y llun, WikiCommons
Disgrifiad o’r llun,

Carafán Eccles yn dyddio o tua 1926

Yn draddodiadol, byddai ymwelwyr yn taro bargen gyda ffermwr i gael gosod carafán ar eu tir ond yn ystod y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd dechreuodd teuluoedd ddatblygu parciau gwyliau gyda chyfleusterau pwrpasol.

Un o'r parciau swyddogol cynharaf yng Nghymru ydy Parc Carafán Abbeyford yn Nhowyn ger Abergele a ddechreuodd groesawu carafanwyr yn gynnar yn y 50au.

Wedi'r Ail Ryfel Byd, daeth gwyliau carafán yn boblogaidd ymhlith glowyr Cymru.

Yn ystod 'Pythefnos y Glowyr' – yr wythnos olaf yng Ngorffennaf a'r gynta yn Awst – roedd pyllau glo'r wlad yn cau ar gyfer gwaith cynnal a chadw, gan olygu cyfnod o wyliau haeddiannol i'r gweithwyr a'u teuluoedd.

Dewisodd llawer dreulio'u pythefnos o seibiant mewn carafanau yn rhai o drefi glan môr y de.

Daeth Porthcawl yn gyrchfan gwyliau carafanio poblogaidd tu hwnt ac erbyn diwedd yr 1950au roedd digon o lefydd i dros 3,000 o garafanau yn yr ardal, gyda gwersylloedd Traeth Tywyn a Bae Treco yn denu'r mwyafrif o ymwelwyr.

Prom PorthcawlFfynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes y Bont-faen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl yn heidio i drefi glan môr fel Porthcawl

O vardos lliwgar i rialtwch pythefnos y glowyr, mae'r garafán yn rhan o dirwedd gyfarwydd Cymru bellach – ac i unrhyw un sydd wedi bod yn sownd y tu ôl i res o garafanau ar yr A470, mae'n hawdd tystio eu bod nhw'n parhau'r un mor boblogaidd ag erioed!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.