'Dim bwriad gan Gymru i fod yn rhan o dîm Prydain yn 2028'

Dywedodd Noel Mooney nad yw erioed wedi trafod cynllun o'r fath gydag unrhyw un, a'i fod yn canolbwyntio ar Gymru yn unig
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad i fod yn rhan o gynlluniau i greu tîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2028.
Fe ddywedodd penaethiaid 'Team GB' ar ddiwedd y gemau ym Mharis y llynedd, y bydde nhw'n hoffi gweld tîm pêl-droed dynion yn cymryd rhan yn y gemau yn Los Angeles.
Roedd rheolwr Cymru, Craig Bellamy ymhlith pump o Gymry gafodd eu cynnwys yn y garfan y tro diwethaf i dîm dynion gystadlu yn y gemau 'nôl yn 2012.
Cafodd tîm merched ei greu diwethaf ar gyfer Gemau Tokyo yn 2020 - gyda chyn-gapten Cymru, Sophie Ingle yn rhan o'r garfan honno.
Ond mae Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dweud ers tro nad ydyn nhw'n gefnogol o'r syniad, a dydi hynny heb newid, yn ôl Noel Mooney.
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd27 Awst 2024
Ar ôl Gemau Paris, fe ddywedodd Andy Anson - un o gyn-swyddogion Cymdeithas Olympaidd Prydain (BOA) - fod y corff yn gobeithio cynnal trafodaethau gyda chymdeithasau pêl-droed Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Yn y gorffennol mae'r cymdeithasau unigol wedi mynegi pryder y gallai creu tîm o'r fath beryglu eu hannibyniaeth yng nghystadlaethau Fifa ac Uefa.
'Canolbwyntio ar Gymru'
"Does gennym ni ddim unrhyw fwriad i fod yn rhan o'r Gemau Olympaidd, dydi'r mater ddim ar ein radar o gwbl," meddai Mr Mooney wrth asiantaeth newyddion PA.
"Dydw i heb glywed gair am y peth, ac erioed wedi ei drafod gydag unrhyw un.
"Yr hyn 'da ni eisiau ei wneud yw canolbwyntio ar Gymru, a'r hyn gallwn ni ei wneud."
Mae 'na deimlad y gallai'r BOA wynebu gwrthwynebiad gan y cymdeithasau a chlybiau proffesiynol oherwydd pryderon am nifer y gemau yn y calendr pêl-droed.
Fe fydd Gemau Los Angeles yn cael eu cynnal rhwng 14-30 Gorffennaf, 2028 - ddyddiau yn unig ar ôl i Euro 2028, sy'n cael ei gynnal yn y DU, ddod i ben.
Ychwanegodd Mr Mooney: "Gwaith rhywun arall ydi'r Gemau Olympaidd, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ein bod ni'n cynrychioli Cymru yn y ffordd iawn.
"Ar ac oddi ar y cae, rydyn ni'n gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynrychioli Cymru yn y ffordd iawn. Dyna yw ein ffocws."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.