Aneirin Karadog: Codi pac a symud i Lydaw
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prifardd Aneirin Karadog a'i deulu yn codi pac o Bontyberem a symud i Kerlouan, yn Llydaw, ymhen ychydig fisoedd.
Trochi eu plant Sisial ac Erwan yn yr iaith Lydaweg a dihangfa rhag Brexit yw ei resymau ef a'i wraig Laura dros y symud, meddai.
"Mae modd teimlo fel caethwas i sefyllfa yn rhwydd iawn, lle mewn gwirionedd does dim rhaid i hynny fod yn wir," meddai Aneirin Karadog, sydd wedi prynu tocyn unffordd i Lydaw ddiwedd Awst iddo fe a'i deulu, y gath a'r ci.
"Mae'n rhaid bachu ar gyfleoedd ac mae'n rhaid gwneud y cyfleoedd yma eich hunan yn aml iawn.
"Dim ond un bywyd sydd gyda ni, felly ry'n ni'n trio gwneud y mwyaf ohono."
Cysylltiad teuluol
Gyda mam Aneirin Karadog yn dod o Lydaw ac yntau wedi treulio gwyliau haf yno ers iddo gael ei eni, y Lydaweg yw ei famiaith, ac os na fyddai'n cymryd y cyfle i drosglwyddo'r iaith honno yn llawn i'w blant, byddai'n teimlo'n euog weddill ei fywyd, meddai, wrth esbonio'r rheswm dros y symud.
"Ni moyn rhoi'r plant mewn addysg Lydaweg. Mae'r ferch, Sisial, yn chwech oed nawr. Mae'n deall Llydaweg yn iawn, ond er fy mod i'n siarad Llydaweg gyda hi, mae'n tueddu i fy ateb i yn Gymraeg," meddai.
"Dim ond pan oedd hi'n bump oed ddechreuodd hi fy ateb i'n rhannol yn Llydaweg.
"Dw i ddim eisiau edrych yn ôl a difaru na wnes i drosglwyddo'r iaith iddyn nhw.
"Mae Erwan, sy'n flwydd a hanner, yn fwy hanner a hanner, ac fe wneith ddweud gibell yn lle bath, er enghraifft.
"Bydden i'n teimlo'n grac gyda'n hunan pe bawn i heb drosglwyddo fy mamiaith i fy mhlant, ac mae rhan ohona i'n barod yn teimlo fy mod i wedi methu hyd yn hyn."
Hefyd o ddiddordeb:
Tro ar fyd oherwydd Brexit
Mae Aneirin yn cyfaddef ei fod yn pryderu'n fawr am yr hyn sy'n digwydd gyda Brexit, ac mae'r ffaith nad oes neb yn gwybod beth sydd rownd y gornel wedi bod yn ysgogiad i godi pac, a phrysuro'r symud i Lydaw.
"Does dim syniad 'da fi beth sy'n mynd i ddigwydd yn y misoedd nesaf, felly mae'n gam naturiol i fynd i Lydaw nawr," meddai Aneirin.
"Mae hanner fy nheulu i'n byw yno, ac fel pabyddion da maen nhw'n deulu mawr.
"Mae mor bwysig i fi bod fy mhlant i mewn cysylltiad â'u hunaniaeth Lydaweg nhw. Er mwyn gwneud hynny, mae angen treulio amser yn y wlad."
'Rhoi egni newydd i'r Lydaweg'
Yn Kerlouan, sef pentref genedigol mam Aneirin, fydd y teulu'n byw. Mae'n ardal wledig, amaethyddol, sydd ag arfordir trawiadol, traethau gwynion a chreigiau ym mhob man.
Ac er bod y Lydaweg i'w chlywed yno, mae'n prysur edwino, yn ôl Aneirin Karadog.
"Dy'n ni ddim yn mynd mas yna i weld y Lydaweg yn edwino, ry'n ni eisiau mynd mas yna i gyfrannu at ei bywyd hi a rhoi egni newydd iddi," meddai.
"Ac mae'n mynd i olygu ein bod ni'n byw bywyd iachach, arafach. Mae teuluoedd yn parhau i fwyta prydau bwyd rownd y ford gyda'i gilydd, ac mae'r amgylchedd o gwmpas yn llai llygredig," ychwanegodd wrth egluro fod plant yn Llydaw yn tyfu lan yn llai sydyn na phlant Cymru.
"Maen nhw'n cael bod yn blant am yn hirach, ry'n ni wedi sylwi. Mae wastad yn frwydr i esbonio iddynt pam nad oes gyda nhw'r gajets diweddaraf, fel plant eraill."
Mwynhau bywyd teuluol
"Ry'n ni wedi setlo ar y syniad ein bod ni moyn trio rhoi profiadau i'n gilydd fel anrhegion yn hytrach na 'stwff'," meddai Aneirin.
"Ni'n gobeithio mynd mas yna i gael profiadau, a dod i adnabod ein gilydd, ac ehangu ein rhwydwaith o ffrindiau a dod i adnabod y gymuned Lydaweg yn well.
"Mae Pontyberem yn grêt, a ry'n ni'n mwynhau byw yma, ond dw i wedi gweld newid mawr yn ieithyddol, gyda phlant bach iawn yn troi at y Saesneg oherwydd dylanwadau fel teledu, pwysau o'r wasg, YouTube ac ati.
"Mae'r pethau yma'n bodoli yn Llydaw hefyd wrth gwrs, ond does dim cymaint o bwyslais. Mae'r plant yn tueddu i fod yn fwy rustic, ac yn fwy cefn gwladaidd!"
Byw'r bywyd tawel
Athrawes ioga yw gwraig Aneirin, Laura Karadog, ond dydy hi ddim yn mynd i chwilio'n bwrpasol am lefydd i ddysgu ioga yn Llydaw, meddai Aneirin.
"Falle daw ryw bosibiliadau o ddysgu dros y we ond bydd yn gyfle iddi fynd yn ôl i'w phractis ei hun a bod yn greadigol a chamu yn ôl o'r dysgu.
Gwrandewch:
"O ran gwaith, mae 'da fi rai syniadau yr hoffwn weithredu arnyn nhw. Gyda'r we, mae gweithio'n bosib. Ond os na ddaw dim byd i fwcwl, mae wastad y ffermydd a chaeau winwns i gael, a bydda i'n mynd lawr y llwybr hwnnw er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n llwgu!"
Ond yn ôl yng Nghymru fach fydd ei galon, meddai - a bydd y teulu yn dychwelyd mewn da bryd i'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf.
"Dw i'n gwybod yn barod y bydda i'n hiraethu am Gymru a'r Gymraeg. Er bod yna gyfryngau i allu cadw mewn cysylltiad, 'dw i'n dwlu ar yr ymwneud cymunedol ym Mhontyberem ac yn y gymuned farddol dw i'n ymwneud â nhw," meddai.
"Ry'n ni'n cymryd cam yn ôl, er mwyn gweld lle awn ni nesaf. Dwi wedi bod yn mynd i Lydaw bob blwyddyn ers fy ngeni, felly dwi'n nabod y lle yn dda iawn, ond erioed wedi aros yno am fwy na gwyliau'r haf. Mae'n siŵr bod yna fwy o lefydd i'w darganfod."
Stori: Llinos Dafydd
Hefyd o ddiddordeb: