Cymry'n dathlu digwyddiadau brenhinol dros y blynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Yn ôl ffigyrau cynghorau lleol am nifer y partïon stryd swyddogol sydd wedi eu trefnu, ychydig o chwant dathlu sydd ar gyfer y briodas frenhinol ar ddydd Sadwrn Mai 19.
Ar Mai 16, 30 cais oedd wedi ei wneud am ganiatâd i gynnal parti stryd i ddathlu priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle drwy Gymru gyfan.
Mae 23 o'r rhain yn ne ddwyrain Cymru, gyda dim ond tri wedi'u trefnu i'r gogledd o Fannau Brycheiniog.
Ond 'doedd hi ddim wastad mor llwm.
Yn 2011 roedd dros 200 o geisiadau i gau ffyrdd i ddathlu priodas y Tywysog William a Kate Middleton.
A thros y blynyddoedd mae cofnodion lu o Gymry'n mwynhau te parti stryd i ddathlu digwyddiadau brenhinol.
Dyma gasgliad o luniau o rai o'r dathliadau yng Nghymru dros y blynyddoedd o wefan Casgliad y Werin, dolen allanol.
Rhai o drigolion ifanc ardal Penparcau, Aberystwyth yn dathlu priodas y Tywysog Andrew gyda Sarah Ferguson yn 1986. Ydych chi'n nabod rhywun yn y llun?
Ac wrth gwrs, yn 1969, roedd y dathliadau brenhinol â blas mwy Cymreig fyth ar achlysur arwisgo'r Tywysog Charles yng Nghaernarfon.
Roedd pobl hyd yn oed yn dathlu yn ardal Gabalfa, Caerdydd, fel trigolion Llandinam Crescent yn y llun yma.
Roedd 1981 yn flwyddyn sy'n aros yn y cof i nifer o ddathlwyr brenhinol Cymru, gyda phartïon stryd lu i ddathlu priodas Charles a Diana.
Mae rhai o drigolion Maesheli, Penparcau, uchod yn edrych wrth eu bodd gyda'r dathlu.
Roedd pobl Machen ger Caerffili hefyd yn dathlu'r Arwisgo. Rhai fel Dean a Chris fan hyn yn mwynhau diod neu ddau!
Daeth pobl Machen allan i'r strydoedd yn 1953 hefyd i ddathlu coroni'r Frenhines Elisabeth II. Dyma rai o drigolion strydoedd Alma a Napier yn y dref.
Gwnaeth trigolion Tone Close, Machen, fwynhau te yn yr awyr agored i ddathlu'r briodas fawr yn 1981 hefyd. Mae llun y pâr priod hapus yn y ffenest yn y cefndir.
Ac fe orffennwn ni lle ddechreuon ni - Penparcau, Aberystwyth, 1986. Ond fydd ddim dathliadau tebyg yna yn ystod priodas eleni.