Cymorth i bobl ifanc di-waith y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Hyfforddiant
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bradley Davies gymorth i gael gwaith ar ôl cael tiwmor ar yr ymennydd

Wrth i ddisgyblion ar draws Cymru baratoi at eu harholiadau, mae 'na gynllun newydd i geisio helpu'r rhai hynny sydd ddim mewn addysg na gwaith.

Gyda'r tymor arholiadau newydd ddechrau, mae 'na filoedd lawer o ddisgyblion ar hyd a lled Cymru'n brysur yn adolygu funud ola'.

Ond beth am y rhai sydd ddim yn gallu sefyll arholiadau?

Dydy'r llwybr addysgiadol traddodiadol ddim ar gael neu'n gweddu i bawb.

Cynnig help

Mae cynllun newydd yn y gogledd yn ceisio helpu'r bobl ifanc hynny sydd ddim yn derbyn addysg na hyfforddiant, neu sy'n ddi-waith.

Grŵp Llandrillo Menai sy'n arwain cynllun Adtrac, gan weithio mewn partneriaeth â chyrff fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chynghorau lleol.

Mae'r prosiect wedi'i ariannu gydag arian Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru tan o leia' 2020.

Un sydd wedi elwa ydy Bradley Davies, 18, o Langefni, sydd wedi cael gwaith mewn bar a chaffi ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, erbyn hyn.

Ar ôl cael tiwmor ar yr ymennydd bedair blynedd yn ôl, mi gollodd ei hyder a'i chael hi'n anodd cadw i fynd yn yr ysgol.

'Colli tempar'

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fod cynllun Adtrac wedi'i helpu i weld y gwydr yn hanner llawn eto: "Tua tri mis ar ôl yr operation nes i fynd 'nôl i'r ysgol.

"Ond achos bod nhw'n trio cael fi i wneud tests a finna heb stydio, o'n i'n stressio. Nes i ddechra' colli tempar so nes i gael fy nghicio allan o'r ysgol.

"Pan nes i ddechra' efo Adtrac, o'n i'm yn gwneud dim byd, o'n i jyst efo'r job centre. O'n i isho cael mewn i hospitality a ma' Adtrac 'di helpu fi i gael jobs volunteering, helpu fi gael ID a tystysgrif geni a pethau fel 'na.

Disgrifiad o’r llun,

Bradley gydag Eirian Huws, sy'n helpu mentora pobl ifanc

"Dwi'n teimlo'n fwy hyderus rwan. O'r blaen do'n i ddim yn meddwl fyswn i'n gallu cael mewn i'r byd gwaith achos do'n i ddim yn gwneud yn dda yn fy work experience. Ond y rheswm am hynny oedd bod fi ddim yn mwynhau o, ond rwan dwi 'di ffeindio rhywbeth dwi yn mwynhau. Dydw i ddim yn teimlo 'mod i'n gadael fy hun lawr.

"Heblaw am Adtrac, faswn i jyst 'di bod yn eistedd adra, faswn i ddim 'di trio gwneud dim byd. Ma' nhw 'di helpu fi gael support, helpu fi gael allan o'r ty.

"O'n i ddim yn berson i ysgol. Mae 'na rai pobl sy' angen mwy o support na'r lleill. Dwyt ti'm yn mynd i allu cael plant yn bihafio os ti ddim yn rhoi'r support ma' nhw angen iddyn nhw.

"Ella'n y dyfodol wna i fynd 'nol i'r coleg i gael GCSEs a cael mwy o work experience. Dwi'n teimlo'n lot mwy hyderus rwan bod fi 'di trio gwneud rhywbeth a dydw i ddim jyst yn ista adra'n gwneud dim byd."

Mae Adtrac yn gwasanaethu ar draws y gogledd i geisio helpu pobl ifanc rhwng 16-24 oed sydd ddim yn derbyn addysg na hyfforddiant, neu'n ddi-waith ddod dros y rhwystrau sy'n eu hatal rhag datblygu eu sgiliau.

'Codi hyder'

Un sy'n mentora'r bobl ifanc yw Eirian Huws: "'Da ni'n trio codi hyder y bobl ifanc, cynyddu sgiliau, rhoi blas ar wahanol brofiadau gwaith. Trio ffeindio allan y rhesymau pam bod nhw ddim wedi gallu cyrraedd lle maen nhw eisiau bod.

"Dwi 'di bod yn mentora Bradley dros y misoedd ac mae'n braf gweld sut mae o wedi llwyddo.

"Flwyddyn yn ôl, prin oedd o'n gweld amser cinio, 'doedd o ddim yn licio codi. Oedd o'n methu cysgu'n y nos ac yn cysgu'n y dydd - dim routine a dim hyder chwaith.

"Ond rwan mae mor braf ei weld o'n dod i'w waith ac yn hapus i ddod."