Comisiynydd: 'Gwasanaethau eiriolaeth yn annerbyniol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gweithredu i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed, yn ôl Sarah Rochira Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Dywedodd adroddiad y Comisiynydd, a gyhoeddwyd ddydd Gwener, fod pobl hŷn ledled Cymru yn methu cael mynediad at wasanaethau eiriolaeth, gwasanaeth sydd yn hanfodol er mwyn helpu pobl i leisio eu barn a sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu.
Mae Ms Rochira yn galw ar Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i gael gwared ar y rhwystrau y bydd pobl hŷn yn aml yn eu hwynebu wrth gael mynediad at eiriolaeth annibynnol.
Mae'r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth a gasglwyd gan bobl hŷn a gofalwyr ledled Cymru sydd wedi cael eu cefnogi gan eiriolwyr annibynnol.
'Cwbl annerbyniol'
Daeth yr adroddiad - Sicrhau Lleisiau i Bobl Hŷn - i ganlyniad nad yw gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol bob amser yn deall hawliau cyfreithiol pobl i gael eiriolaeth.
Noda'r adroddiad hefyd bod diffygion yn y ddeddfwriaeth bresennol a'r modd y caiff ei weithredu yn gallu atal pobl rhag cymryd rhan yn llawn pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud am eu bywydau.
Dywedodd Ms Rochira fod sicrhau fod gan bobl hŷn lais cryf yn allweddol er mwyn llywio penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am eu bywydau nhw mewn modd ystyrlon.
"I rai pobl hŷn, yr unig ffordd o gyflawni hyn fydd gyda chymorth eiriolwr annibynnol a all gynrychioli eu barn a siarad ar eu rhan.
"Ond fel y gwelir yn fy adroddiad, nid yw pobl hŷn yn aml yn gwybod bod y math yma o gymorth ar gael ac yn aml ni allant gael mynediad ato, hyd yn oed mewn achosion pan fo ganddynt hawl gyfreithiol i'w gael, sy'n gwbl annerbyniol" Meddai'r Comisiynydd.
Mae'r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i gymryd amrywiaeth o gamau i gael gwared ar y rhwystrau y bydd pobl hŷn yn aml yn eu hwynebu wrth gael mynediad at eiriolaeth annibynnol, gan gynnwys:
Codi ymwybyddiaeth o eiriolaeth ymhlith pobl hŷn;
Gwneud 'cynnig gweithredol' o eiriolaeth i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal a'r rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty, a allai fod yn fregus;
Hyfforddiant ar gyfer y gweithlu;
Cyflwyno dulliau gwell o gynllunio a chasglu data i nodi a mynd i'r afael â bylchau posib yn yr eiriolaeth a ddarperir.
'Tanseilio hunaniaeth'
Mae'r adroddiad hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod pobl hŷn efo rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.
Ychwanegodd y Comisiynydd: "Pan na fydd gan bobl hŷn lais cryf, bydd hyn yn tanseilio eu hunaniaeth, eu hyder a'u hawliau yn sylweddol. Mae eiriolaeth annibynnol yn allweddol i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ac y gwrandewir arnynt.
"Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus felly gymryd y camau angenrheidiol, fel y nodir yn fy adroddiad, i sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth ar gael a'u bod yn gynaliadwy a bod pobl hŷn ledled Cymru, yn arbennig y rhai mewn sefyllfaoedd bregus, yn gallu cael mynediad at eiriolaeth annibynnol pe bai arnynt ei hangen".