Tad ifanc o Bwllheli'n marw wedi gwrthdrawiad beic modur

  • Cyhoeddwyd
Huw Moss HughesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae teulu tad ifanc o Bwllheli, fu farw ddyddiau wedi gwrthdrawiad ger Dolgellau, wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd Huw Moss Hughes, 25, ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke wedi gwrthdrawiad yn cynnwys dau feic modur ar yr A487 ddydd Sul, 6 Mai.

Ond mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau ei fod wedi marw yn yr ysbyty ddydd Mercher.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad fod eu "calonnau'n torri" wedi'r farwolaeth, a'i fod yn fab, partner, brawd mawr a chyfaill "llawn hwyl" oedd yn "gweithio'n galed",

"Roeddan ni i gyd yn caru Huw ac fe fydd colled aruthrol ar ei ôl," medd y teulu yn eu datganiad. Roedd yn dad balch i ferch chwe mis oed ac roedd wedi gwirioni hefo hi."

"Roedd mor boblogaidd ymhlith ei ffrindiau. Fel teulu rydym mor eithriadol o falch o Huw a fydd ein bywydau fyth yr un fath hebddo."

Ychwanegodd y datganiad ei fod yn gweithio fel plastrwr gyda chwmni adeiladu'r teulu, a'i fod yn mwynhau cadw'n heini a chodi pwysau. Roedd i fod i gystadlu yn y Bencampwriaeth Genedlaethol mewn digwyddiad yn Birmingham y penwythnos yma.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ychydig wedi 14:00 ar yr A487 ger bwyty'r Cross Foxes i gyfeiriad Tal y Llyn. Ni chafodd yr ail feiciwr modur anaf.

Wrth gydymdeimlo â theulu Mr Hughes, sy'n cael cefnogaeth gan swyddog heddlu, dywedodd y Sarjant Meurig Jones o'r Uned Plismona'r Ffyrdd eu bod yn dal i apelio am wybodaeth gan dystion posib.