Cyhoeddi rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018

  • Cyhoeddwyd
Llyfr y FlwyddynFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae llyfrau gan Catrin Dafydd, Mihangel Morgan a Gwyneth Lewis ymysg y gweithiau ar y rhestrau byrion eleni

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018.

Cyflwynir gwobrau Llyfr y Flwyddyn yn flynyddol i'r gweithiau Cymraeg a Saesneg gorau o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.

Ar y panel Cymraeg eleni mae'r darlledwr a'r cyflwynydd Beti George; y Prifardd Aneirin Karadog a chyn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Caryl Lewis.

Mae'r panel Saesneg eleni yn cynnwys y colofnydd, cynhyrchydd a'r awdur Carolyn Hitt; y bardd a'r golygydd Kathryn Gray; a'r awdur Cynan Jones.

Rhestr Fer Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018:

Gwobr Farddoniaeth:

  • Llif Coch Awst, Hywel Griffiths (Cyhoeddiadau Barddas)

  • Treiglo, Gwyneth Lewis (Cyhoeddiadau Barddas)

  • Caeth a Rhydd, Peredur Lynch (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Ffuglen:

  • Gwales, Catrin Dafydd (Y Lolfa)

  • Fabula, Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa)

  • Hen Bethau Anghofiedig, Mihangel Morgan (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol:

  • Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (Y Lolfa)

  • Blodau Cymru: Byd y Planhigion, Goronwy Wynne (Y Lolfa)

  • Ar Drywydd Niclas y Glais, Hefin Wyn (Y Lolfa)

Disgrifiad o’r llun,

Aneirin Karadog (chwith), Beti George a Caryl Lewis sydd ar y panel Cymraeg eleni

Dywedodd Aneirin Karadog: "Bu'r broses feirniadu, cyn belled, yn un ddifyr a bywiog, wrth i ni dafoli'r rhychwant eang o lyfrau a gyhoeddwyd yn y Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae'n destun balchder fod cymaint o lyfrau o safon yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg heddiw, a'r llyfrau hynny yn trin pynciau o bob math ac mewn cymaint o arddulliau creadigol."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Llenyddiaeth Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Llenyddiaeth Cymru
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Catrin Beard

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Catrin Beard

Y llyfrau Saesneg sydd wedi'u henwebu:

Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias:

  • All fours, Nia Davies (Bloodaxe Books)

  • The Mabinogi, Matthew Francis (Faber & Faber)

  • Diary of the Last Man, Robert Minhinnick (Carcanet Press)

Gwobr Ffuglen:

  • Hummingbird, Tristan Hughes (Parthian)

  • Light Switches Are My Kryptonite, Crystal Jeans (Honno)

  • Bad Ideas \ Chemicals, Lloyd Markham (Parthian)

Gwobr Ffeithiol Greadigol:

  • Icebreaker, Horatio Clare (Chatto & Windus)

  • David Jones: Engraver, Soldier, Painter, Poet, Thomas Dilworth (Jonathan Cape)

  • All that is Wales, M. Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru)

Caiff enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn Tramshed, Caerdydd ar nos Fawrth 26 Mehefin.