'Pryder' am doriadau o £2m i wasanaethau tân y gogledd
- Cyhoeddwyd
Gallai diffoddwyr tân yng ngogledd Cymru wynebu colli swyddi dan gynlluniau torri costau allai olygu cau neu israddio gorsafoedd.
Mae'n rhaid i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru arbed bron i £2m yn 2019-20, ac fe allai un opsiwn gynnwys cael gwared ag un injan dân llawn amser yn Wrecsam.
Dyw'r awdurdod heb benderfynu'n derfynol eto ar yr opsiynau, fydd yn wynebu ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedodd Undeb y Diffoddwyr Tân y bydden nhw'n brwydro'r toriadau "yn chwyrn".
Nifer o gynigion
Cafodd cynlluniau blaenorol i gael gwared ag un o injans tân Wrecsam eu gwyrdroi yn dilyn protestiadau - ar hyn o bryd mae gan yr orsaf ddau gerbyd llawn amser ac un cerbyd rhan amser.
Ond yn ôl adroddiad newydd mae'r cam hwnnw, fyddai'n golygu colli 24 o swyddi diffodd tân, yn un o nifer o doriadau arfaethedig wrth i'r awdurdod geisio arbed £1.8m.
Gallai gorsafoedd Glannau Dyfrdwy a'r Rhyl hefyd gael eu hisraddio, gan adael Wrecsam fel yr unig orsaf yn y gogledd gyda diffoddwyr tân yno 24 awr y dydd.
Mae'r prif swyddog tân eisoes wedi rhybuddio'r awdurdod y bydd unrhyw doriadau pellach i swyddi cynorthwyol galwadau 999 yn peri risg i ddiogelwch ac enw da diffoddwyr.
Mae'r opsiynau yn yr adroddiad yn cynnwys:
Tynnu injan dân o Wrecsam neu leihau'r oriau agor i oriau dydd yn unig;
Newid gorsafoedd tân Glannau Dyfrdwy a'r Rhyl i rai staffio dydd yn unig, gyda diffoddwyr ar alw ar gyfer y nos;
Cau un neu fwy o'r gorsafoedd sydd heb eu staffio, neu newid un sy'n weithredol ar hyn o bryd i un ar alw;
Symud yr injan dân rhan amser o un o'r gorsafoedd yng Nghaergybi, Caernarfon, Bangor, Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam.
Petai'r holl senarios hynny'n digwydd fe allai 52 o ddiffoddwyr tân a rheolwyr golli'u swyddi, yn ogystal â rhai diffoddwyr ar alw.
Ond byddai modd osgoi'r toriadau hynny os yw cynnydd yn cael ei wneud yng nghyfraniad y cynghorau er mwyn llenwi'r bwlch, gyda phob cyngor yn y gogledd yn talu rhwng £180,360 - £398,160 yr un.
'Peryglu bywydau'
Mae'r adroddiad yn rhybuddio bod "cynaliadwyedd ariannol" yr awdurdod yn dibynnu ar wneud yr arbedion, a hynny gan fod y bwlch cyllid wedi'i lenwi gan arian wrth gefn yn y gorffennol.
Dan reolau diogelwch y gwasanaeth, mae'n rhaid i ddwy injan dân fod ar gael ar gyfer unrhyw achos o dân mewn tŷ.
Mae disgwyl i gynrychiolwyr o Undeb y Diffoddwyr Tân gyfarfod aelodau'r awdurdod ddydd Gwener i drafod y cynigion, ac maen nhw eisoes wedi rhybuddio y gallai gael "effaith enfawr".
"Does dim amheuaeth y byddai'r cynigion yma'n cynyddu faint o amser mae'n cymryd i'r gwasanaeth ymateb i ddigwyddiadau fel tanau mewn eiddo neu wrthdrawiadau ffordd, gan beryglu bywydau," meddai ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb, Ceri Griffiths.
Dywedodd yr awdurdod tân nad oedd penderfyniad wedi'i wneud ar y cynigion eto, ac y byddan nhw'n cael eu trafod gan y panel gweithredol ddydd Llun.