Cyn-flaenwr Cymru a'r Llewod, Gareth Williams, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae un o gyn-chwaraewyr rygbi Cymru a'r Llewod, Gareth Williams, wedi marw yn 63 oed.
Roedd yn gapten ar Glwb Rygbi Pen-y-bont yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf llewyrchus yn y 70au hwyr a'r 80au, ac yn ogystal â chwarae pump o weithiau dros Gymru rhwng 1980 ac 1982 fe chwaraeodd i dîm y Llewod yn 1980.
Ers 2012 roedd wedi bod yn diodde' o gyflwr lle mae celloedd nerfau yn yr ymennydd yn dirwyo dros gyfnod.
Cafodd ei farwolaeth ei gadarnhau gan Glwb Rygbi Pen-y-bont ar eu tudalen Facebook, lle cafodd ei ddisgrifio fel "gwir arwr".
"Fe chwaraeodd Gareth yn y buddugoliaethau yn erbyn Pontypridd ac Abertawe yng Nghwpan Cymru", meddai'r datganiad.
"Fe sgoriodd gais yn y gêm yn erbyn Pontypridd yn 1979, ac fe oedd seren y gêm yn erbyn Abertawe yn 1980.
"Roedd 'Sam' yn ŵr bonheddig, yn chwaraewr aruthrol, yn ddyn teulu arbennig ac yn ffrind da i lawer.
"Fe fydd y golled i'w deimlo gan bawb a fuodd mor ffodus i'w nabod."
Ar eu cyfri Twitter, dywedodd y Llewod "bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau Gareth Williams sydd wedi marw yn sgil salwch. "
"Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni'n gallu anrhydeddu ei fywyd a'i gyfraniad i'r Llewod drwy gyflwyno'r cap hwn yn ei enw.
"Llew #571."