Gorfodi gwerthu tir yn rhad yn creu pryderon
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon wedi codi ynglŷn â chynlluniau i orfodi gwerthu tir ar gyfer tai cymdeithasol yn rhad.
Yn Lloegr mae'r Blaid Lafur wedi cynnig caniatáu bod y wladwriaeth yn cael prynu tir am bris sy'n agos i'w werth cyn i ganiatâd cynllunio gael ei roi.
Yng Nghymru mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi dweud bod yn rhaid gwerthuso cynllun o'r fath cyn ei ystyried.
Mae un AC Ceidwadol wedi dweud y gallai'r cyfan gael effaith ar gynhyrchu bwyd petai ffermydd yn cael eu heffeithio.
Mae Plaid Lafur y DU, sy'n wrthblaid yn San Steffan, yn ystyried newid y gyfraith yn Lloegr ac felly byddai perchnogion tir yn gallu cael eu gorfodi i werthu safleoedd am bris tebyg i'w werth.
Mae'n fater sydd wedi'i ddatganoli ac yng Nghymru petai'n dod i rym mi fyddai'n golygu newid y gyfraith bresennol.
Arbedion sylweddol
Mae tir yn codi yn ei werth unwaith y mae caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ac y mae tirfeddianwyr preifat a chwmnïau sy'n arbenigo ar brynu tir ar gyfer ei ddatblygu yn gallu elwa ar hynny.
Mae papur gwyrdd gan y Blaid Lafur yn nodi y gallai tir amaethyddol godi yn sylweddol pan mae'n gallu cael ei ddefnyddio i godi tai - gallai godi o £21,000 yr hectar i £2.1m yr hectar y tu allan i Lundain.
Mae Llafur yn dweud y gellid gostwng y pris o godi 100,000 o dai cyngor y flwyddyn hyd at £10bn.
Mae'r blaid yn dweud bod herio pris tir uchel yn hanfodol i sicrhau adeiladau mwy o dai fforddiadwy.
Mi fyddai'n rhaid i'r Blaid Lafur fod mewn grym yn San Steffan i sicrhau bod y cynllun yn dod i rym yn Lloegr ond mae'r cynnig yn cael ei gefnogi gan yr AS Ceidwadol Nick Boles.
Mae Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad sy'n cynrychioli tirfeddianwyr amaethyddol wedi mynegi pryderon.
Dywedodd Cyfarwyddwr CLA Cymru Rebecca Williams: "Y ffordd orau i Lywodraeth Cymru i daclo argyfwng tai gwledig yw caniatáu tirfeddianwyr i fuddsoddi mewn cynlluniau tai bychan mewn ardaloedd gwledig ac nid bygwth prynu gorfodol.
"Ry'n yn agored i adolygiad ond y man cychwyn yw gweithio gyda tirfeddianwyr nid ceisio eu gorfodi i werthu eu heiddo am bris isel."
Mewn cwestiwn ysgrifenedig at Lesley Griffiths, mae'r AC Ceidwadol Suzy Davies yn gofyn a ddylid peidio â mabwysiadu fersiwn Gymreig o gynnig Llafur Prydain.
Mewn ateb dywedodd y gweinidog bod angen gwerthuso'r cynllun ymhellach.
Dywedodd Ms Davies ei bod wedi gofyn eto yn siambr y Cynulliad i gynllun tebyg beidio dod i rym yng Nghymru ond dywedodd Ms Griffiths nad oedd ganddi fwy i'w ddweud gan ei bod wedi anfon ateb ysgrifenedig llawn at Ms Davies.
Dywedodd Ms Davies: "Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn dweud bod cynhyrchu bwyd yn bwysig i economi Cymru.
"Ond ar yr un pryd maent yn gwrthod cael gwared â pholisi a allai niwedio'r farchnad fwyd.
"Onid ydynt yn sylweddoli y bydd Cymru yn cael trafferthion i gyrraedd y lefel bresennol o gynhyrchu bwyd heb dir amaethyddol ac heb ffermwyr i reoli'r tir hwnnw."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd mwy i'w ddweud ac fe ddywedodd y dylid anfon cwestiynau i bencadlys y Blaid Lafur yn y DU.
Mae'r blaid wedi gwrthod gwneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2017