Danfon plant mewn gofal Caerdydd cyn belled â Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Mae plant mewn gofal yng Nghaerdydd yn cael eu danfon i lefydd cyn belled â Lerpwl wrth i gyngor y ddinas ystyried a ddylid buddsoddi mwy mewn cartrefi ar eu cyfer.
Fe fydd yr awdurdod yn ystyried codi cartrefi plant newydd o fewn y flwyddyn nesaf fel un mesur posib i osgoi danfon plant filltiroedd o Gaerdydd am ofal.
Yn ôl ymchwiliad i achosion o leoli plant y tu allan i'r ddinas, roedd 244 (o gyfanswm o 800) yn cael gofal mewn sir wahanol, ac mae'r adroddiad yn nodi fod rhai cyn belled â Lerpwl, gogledd Lloegr a gogledd Cymru.
Ond mae'r cyngor yn dweud fod 80% o'r achosion dan sylw o fewn 20 milltir i Gaerdydd, a bod nifer o resymau am eu symud i lefydd pellach i ffwrdd gan gynnwys byw gyda rhieni neu berthnasau neu fod yn agos at deuluoedd maeth.
Ac yn ôl cadeirydd Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y cyngor, y Cynghorydd Lee Bridgeman mae'n ddymundol mewn rhai achosion i bobl ifanc adael y ddinas "er enghraifft, mewn achosion o ecsploetio rhywiol".
Ond yn gyffredinol, meddai, y duedd yw i drefnu gofal yn y ddinas pe bai hynny'n bosib.
"Mae'n rhaid ailagor cartrefi plant ond mae gofyn iddyn nhw fod yn wahanol i gartrefi'r gorffennol," meddai. "Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhan o'r gymuned."
Bydd cabinet y cyngor yn ystyried a ddylid derbyn merched yn Ysgol Greenhill, Rhiwbeina - ysgol arbennig i fechgyn - er mwyn eu cadw yn y ddinas.
Fe fyddan nhw hefyd yn ystyried ffyrdd newydd o recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol.
O'r 244 o blant mewn gofal y tu allan i Gaerdydd ar 21 Gorffennaf y llynedd, roedd:
155 gyda gofalwyr maeth asiantaeth;
38 mewn cartrefi gofal;
14 gyda gofalwr maeth, perthynas neu chyfaill mewn sir wahanol,
10 gyda rhiant neu warchodwr; a
chwech mewn uned troseddwyr ifanc neu garchar.
Roedd y gweddill mewn ysgolion preswyl neu'n byw'n annibynnol.
'Ateb gofynion cymhleth'
Yn ôl amcangyfrif ym mis Chwefror roedd disgwyl i adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod fynd £3.9m dros ei gyllideb ar gyfer 2017/18.
Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey, sy'n gyfrifol am blant a theuluoedd, mai nod yr ymchwiliad oedd i "archwilio pob ffordd bosib o osod y nifer mwyaf posib o blant yng Nghaerdydd" a'u bod yn gwneud hynny eisoes bob tro mae hynny'n bosib.
"Yn bennaf oll, mae'n rhaid sicrhau bod trefniadau wedi'u teilwra i ateb gofynion cymhleth ac amrywiol unigolion," dywedodd. "Wrth drefnu gofal mewn sir arall, mae trefniadau cadarn i ateb gofynion addysgol, iechyd a chymdeithasol.
"Ni allaf drafod achosion unigol, ond fe fydd y plant sy'n byw bellach na 20 milltir o Gaerdydd yno am nifer o resymau, ac mae'n bwysig cydnabod yr amgylchiadau."