Carcharu dau am lofruddiaeth cyffuriau Cei Connah

  • Cyhoeddwyd
David Woods a Leslie BainesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Woods a Leslie Baines eu carcharu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun

Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu am oes am lofruddio llanc 19 oed yn dilyn anghydfod ynglŷn â chyffuriau yn Sir y Fflint.

Cafodd Leslie Baines, 48 o Lannau Dyfrdwy, ei ddedfrydu i o leiaf 26 mlynedd o garchar, tra bydd David Woods, 20 o Lerpwl, yn treulio isafswm o 27 mlynedd dan glo am ladd Matthew Cassidy.

Fe gafodd Mr Cassidy, o Lannau Mersi, ei drywanu naw gwaith ar risiau bloc o fflatiau yng Nghei Connah ym mis Mai y llynedd.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y ffrae yn ymwneud â phwy oedd yn cael delio cyffuriau yn yr ardal dan sylw.

'Ffyrnig a chreulon'

Fe wnaeth y barnwr Ustus Clive Lewis ei ddisgrifio fel "ymosodiad ffyrnig, estynedig a chreulon".

Yn yr achos fis diwethaf dywedodd yr erlyniad bod Mr Cassidy yn delio cyffuriau yng Nglannau Dyfrdwy, a'i fod wedi teithio i Gei Connah y diwrnod cyn iddo gael ei ladd.

Clywodd y llys bod Woods a Baines yn aelodau o gang arall oedd yn delio yn yr ardal, a bod y gang hwnnw hefyd yn cael ei reoli o Lerpwl.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Matthew Cassidy ei drywanu naw gwaith yn yr ymosodiad yng Nghei Connah

Roedd Woods - arweinydd un o'r gangiau - wedi pledio'n ddieuog yn wreiddiol, cyn newid ei ble bedwar diwrnod i mewn i'r achos a chyfaddef llofruddio Mr Cassidy.

Fe blediodd yn euog hefyd i geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, wedi iddo roi tystiolaeth ffôn ffug i'r heddlu mewn ymdrech i roi'r holl fai ar Baines.

Roedd Baines wastad wedi mynnu ei fod yn ddieuog, gan wadu ei fod yn y bloc o fflatiau ar y pryd.

Fe gymrodd y rheithgor ychydig dros ddau ddiwrnod i ystyried y dystiolaeth yn ei erbyn cyn i'r barnwr benderfynu y byddai'n derbyn rheithfarn trwy fwyafrif.

Penderfynodd y rheithgor o 10 i ddau fod Baines yn euog, er nad oedd yn gwbl glir a oedd wedi trywanu Mr Cassidy yn bersonol.