'Penderfyniadau anesboniadwy' am Gylchffordd Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru "benderfyniadau anesboniadwy" ar wario arian cyhoeddus fel rhan o'r cynllun i adeiladu trac rasio ger Glyn Ebwy, yn ôl ACau.
Doedd dim prawf fod gweinidogion wedi cefnogi'r ffaith i gwmni beiciau modur o Loegr gael ei brynu gan arian oedd wedi ei glustnodi ar gyfer trac Cylchffordd Cymru.
Yn ôl cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay, mae angen cryfhau'r rheolaeth ar wariant cyhoeddus.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn ymwybodol fod "gwersi i'w dysgu".
Prynu cwmni beiciau modur
Roedd cefnogwyr y cynllun gwerth £433m yn dweud y byddai'n creu 6,000 o swyddi yn ne-ddwyrain Cymru.
Ond ym mis Mehefin 2017 fe wrthododd gweinidogion gais gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd (HoVDC) i warantu hanner y gwariant.
Mae'r adroddiad gan ACau yn feirniadol o'r ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru graffu ar y dros £9m o arian cyhoeddus gafodd ei wario ar y cynllun.
Roedden nhw yn bryderus am y ffaith i HoVDC brynu cwmni FTR Moto - cwmni beiciau modur o Sir Buckingham - am £300,000 yn 2016.
Gwadodd Llywodraeth Cymru i'r arian yma ddod o grant o £2m i ddatblygu tir, ond fe welodd y pwyllgor waith papur oedd yn cadarnhau fod swyddogion yn gwybod ac yn gefnogol i'r fargen.
Er hyn doedd dim prawf fod y Gweinidog Busnes, Edwina Hart yn gwybod am hyn.
Roedd y pwyllgor hefyd yn pryderu am fargen gafodd ei tharo lle roedd HoVDC yn derbyn gwasanaethau arbenigol gan gwmni oedd yn berchen i'w prif weithredwr Michael Carrick.
Yn ôl yr adroddiad ni wnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru holi i weld a oedd Aventa Capital Partners wedi cael y gwaith yn dilyn proses dendro, a doedden nhw heb weld manylion y gwasanaethau roedd y cwmni yn ei gynnig.
Yr uwch-was sifil Llywodraeth Cymru oedd yn delio 'r prosiect oedd James Price, oedd yn is-ysgrifennydd parhaol gyda'r adran economi ar y pryd.
Mae Mr Price bellach wedi'i benodi'n brif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, gydag Andrew Slade wedi cymryd ei rôl gydag adran yr economi.
Galw am 'reolaeth effeithiol'
Dywedodd Mr Ramsay ei bod hi'n iawn i Lywodraeth Cymru ymchwilio i ymarferoldeb y prosiect "pwysig ac unigryw" yma, ond roedd y pwyllgor yn "poeni yn arw" am y ffordd y cafodd hyn ei reoli.
"Fe wnaeth y llywodraeth rai penderfyniadau anesboniadwy pan fuddsoddwyd yn y prosiect gyntaf, fel y penderfyniad i ganiatáu prynu cwmni beiciau modur yn Sir Buckingham fel rhan o'r grant i brynu'r tir yng Nglyn Ebwy," meddai.
"Mae'n holl bwysig fod Llywodraeth Cymru yn dangos rheolaeth effeithiol o arian cyhoeddus ac yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru."
Ym mis Chwefror fe wnaeth HoVDC daro bargen gyda'i gredydwyr mewn ymgais i atal diddymu'r cwmni, sydd â dyledion o dros £24m.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i Gylchffordd Cymru a byddwn nawr yn ystyried y manylion yn llawn cyn ateb yn ffurfiol.
"Rydym eisoes wedi cydnabod fod gwersi i'w dysgu o elfennau o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio a'r prosiect, ac rydym wedi gosod prosesau newydd yn eu lle i ateb rhai o'r materion hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2017