Llais y Llywydd: Prif Weithredwr y RWAS Steve Hughson
- Cyhoeddwyd
Mae Steve Hughson yn brif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS) ers mis Mawrth 2013.
Daeth â chyfoeth o arweiniad a ffocws busnes i'r diwydiant yn dilyn gyrfa 30 mlynedd gyda'r heddlu, gan ddechrau gyda Heddlu'r Met a gorffen yn swydd pennaeth plismona tiriogaethol gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Cefndir amaethyddol sydd gan Mr Hughson, wedi cael ei eni a'i fagu ar fferm y teulu lle mae bellach yn byw, ddim yn bell o Lanfair-ym-Muallt.
Fe aeth i Ysgol Ramadeg Llanfair-ym-Muallt ac roedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Ffermwyr Ifanc (CFFI).
Mae Mr Hughson hefyd yn aelod o banel cynghori amaethyddol Llywodraeth Cymru ac yn gadeirydd Fforwm Dwristiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru (sy'n rhan o Croeso Cymru).
Cafodd ei benodi'n aelod cyswllt o CARAS (Council of Awards of the Royal Agricultural Societies) am ei waith 'arweinyddiaeth mewn amaethyddiaeth', ac mae wedi derbyn gwahoddiad i fod yn llysgennad i Dîm Achub Mynydd Brycheiniog - achos sy'n agos at ei galon.
Fel dysgwr Cymraeg, mae Mr Hughson wedi ymdrechu'n helaeth i hyrwyddo'r iaith a dangos yr hyn all rhywun sydd eisiau dysgu'r iaith ei gyflawni.
Beth yw eich atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
Fy atgofion cyntaf yw cystadlu fel bachgen ifanc, a hefyd fel teulu yn rhoi llety i ddwy ferch ifanc o ogledd Cymru oedd yn cystadlu yn yr Eisteddfod y tro diwethaf iddi ddod i'r ardal.
Ymysg fy atgofion diweddaraf mae cefnogi fy mhlant fy hun yn yr Eisteddfod leol ac yna yn yr Urdd, yn canu, dawnsio a llefaru.
Disgrifiwch y profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod, ac yw'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn eich bywyd proffesiynol?
I berson ifanc, yn amlwg mae cystadlu yn brofiad sy'n achosi nerfusrwydd mawr, ond mae hyn hefyd yn darparu sylfaen wych sydd dros amser yn adeiladu hyder a chyfeillgarwch.
Rydw i'n edrych yn ôl ar fy amser yn cystadlu gyda'r CFFI â'r Urdd ac yn meddwl tybed a fuaswn i yn y sefyllfa yma heb fy mod wedi cael yr hyder i fynd i gyfweliadau yn Llundain fel dyn ifanc 18 oed.
Pa gystadleuaeth newydd hoffech chi ei gweld yn rhan o'r Eisteddfod?
Dydw i ddim yn siŵr, ond hoffwn gefnogi unrhyw gystadleuaeth fyddai'n helpu hyrwyddo a chefnogi'r iaith, yn arbennig dysgwyr.
Mae angen i ni ysbrydoli dysgwyr a gwerthfawrogi'r rheiny sydd wedi gwneud y dewis i ddysgu'r iaith.
Disgrifiwch ardal Brycheiniog a Maesyfed i bobl sydd erioed wedi bod yna o'r blaen
Fel Cadeirydd Fforwm Dwristiaeth Canolbarth Cymru, fe gynhaliom orchwyl yn ddiweddar i bobl feddwl am y geiriau sy'n disgrifio canolbarth Cymru orau.
Y mwyaf poblogaidd oedd diffuant, gwyrdd, ymlaciol, llesol a phrydferth. Byddwn i'n cytuno gyda phob un ohonyn nhw.
Gan ymestyn o ben uchaf Cwm Tawe ger Ystradgynlais, drwy Fannau Brycheiniog i ardal maes y sioe sy'n eistedd rhwng Mynyddoedd y Cambria a'r ffin efo Lloegr, cyn teithio drwy gwm prydferth Elan ac ymlaen at ffin Ceredigion a Sir Drefaldwyn.
Dyma galon werdd Cymru sydd ag ardaloedd nas canfuwyd eto ac sy'n cynnig heddwch a llonyddwch mewn amgylchedd prydferth.
Beth, yn eich barn chi, yw'r peth gorau am yr Urdd?
Dod â phobl ifanc at ei gilydd a darparu profiadau bywyd, sgiliau a hyder fydd gyda hwy am flynyddoedd lawer.