Miliwn o siaradwyr Cymraeg: Pa mor bwysig ydy addysg?

  • Cyhoeddwyd
Hayden Llewellyn

Oes digon o athrawon Cymraeg i sicrhau bod miliwn o bobl yn gallu siarad yr iaith erbyn 2050?

Hayden Llewellyn, prif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yng Nghymru, sy'n egluro pam mai addysg ydy'r ffordd i gyrraedd y targed:

Mae hi bron yn ddwy flynedd ers i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddatgelu cynlluniau uchelgeisiol i sicrhau fod 1 miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050.

Mae data o Gyfrifiad 2011 yn dangos bod 562,016 o bobl yn gallu siarad Cymraeg (19% o boblogaeth Cymru), gyda'r niferoedd wedi gostwng yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae hyn yn golygu bod angen i nifer y siaradwyr Cymraeg bron ddyblu dros y 30 mlynedd nesaf os ydym am weld dyheadau'r llywodraeth yn cael eu gwireddu.

A yw hyn yn bosib neu a ddylen ni dderbyn bod y targed hwn yn rhy anodd?

I gael mwy o siaradwyr Cymraeg, bydd yn rhaid i addysg chwarae rhan enfawr.

Os ydym am gyrraedd y miliwn bydd angen niferoedd digonol o addysgwyr arnom ni sydd, ynghyd â gallu siarad Cymraeg, hefyd yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Pwysigrwydd athrawon cynorthwyol

Mae gan y CGA gyfrifoldeb i gynnal cofrestr o'r rhai sy'n gweithio mewn addysg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys athrawon ysgol ond hefyd staff eraill yn y gweithlu, megis staff cefnogi ysgolion a staff mewn addysg bellach, dysgu yn y gwaith a gwaith ieuenctid.

Nifer yr addysgwyr a gofrestrodd gyda CGA ar 31 Mawrth 2018 oedd 80,070. Mae'r gofrestr yn cynnwys cyfoeth o ddata am y gweithlu addysg ac mae hyn yn cynnwys manylion am eu gallu yn y Gymraeg.

Gan fod athrawon ysgol wedi cofrestru ers 2001, mae'r gwybodaeth am eu gallu yn y Gymraeg yn helaeth.

Rydym ni'n gwybod fod 33% yn gallu siarad Cymraeg a 27% yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yna amrywiadau yn ôl oedran, pwnc, cyfnod ysgol a'r rhanbarth.

Hefyd o ddiddordeb

Ond wrth asesu a datblygu sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu, mae'n bwysig iawn nad ydym yn canolbwyntio ar athrawon ysgol yn unig.

Mae nifer y staff cymorth dysgu yn ein hysgolion (32,531) bellach yn fwy neu lai yr un faint â nifer yr athrawon ysgol (35,571).

Hefyd, mae darpariaeth addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn dod yn fwyfwy hanfodol.

Mae gan wneuthurwyr polisi ddiddordeb mewn annog ein pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol a thrwy gydol eu haddysg, gan wneud gwybodaeth am y gweithlu yn y sectorau hyn yn bwysicach nag erioed.

Mae data gan y CGA yn awgrymu bod yna gyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg o fewn y gweithlu addysg. Rydym ni'n ymwybodol fod yna siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu sydd ddim yn addysgu dysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rhai o'r rhwystrau i wneud cynnydd yn cynnwys sicrhau fod datblygiad o safon uchel ar gael, ac mae ymarferwyr yn cael eu rhyddhau i astudio.

Mae'n arbennig o bwysig edrych ar sut y gallai unigolion ddysgu mewn modd hyblyg, gan gynnwys mynediad agored i adnoddau dysgu ar-lein o safon.

'Cyfleoedd mewn ardaloedd gwledig'

Y tu hwnt i addysg, os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei darged, mae angen mynd i'r afael â materion cymdeithasol, economaidd ac isadeiledd.

Er enghraifft, mae galluogi ac annog siaradwyr Cymraeg i aros, byw a gweithio yng Nghymru, yn gofyn am economi sy'n ffynnu ac yn cynnig swyddi â chyflog da.

Efallai y gallai Llywodraeth Cymru hefyd edrych ar ffyrdd o gadw rhanbarthau Cymraeg-eu-hiaith yn gynaliadwy. Yn draddodiadol, ardaloedd gwledig yw'r rhain, ac mae angen sicrhau fod yna ddigon o gyfleoedd swyddi yno.