Y cyn-ddyfarnwr pêl-droed Gwyn Pierce Owen wedi marw
- Cyhoeddwyd
Yn 85 oed bu farw'r cyn-ddyfarnwr pêl-droed Gwyn Pierce Owen.
Roedd yn ffigwr adnabyddus a phoblogaidd ymysg cefnogwyr Uwch Gynghrair Cymru, ac yn un o hoelion wyth CPD Dinas Bangor.
Ar ei ben-blwydd yn 80 yn 2014 fe gafodd eisteddle stadiwm Bangor ei enwi ar ôl Mr Owen er mwyn cydnabod ei gyfraniad i'r clwb dros y blynyddoedd.
Yn ei gyfnod fel dyfarnwr yn yr 1970au ac 80au roedd yn cael ei ystyried ymhlith y goreuon yng Nghymru a Lloegr.
Bu'n ddyfarnwr rhyngwladol, ac fe gafodd ddyfarnu gemau ymhob un o brif gystadlaethau Ewrop ar y pryd - Cwpan Ewrop, Cwpan UEFA a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.
Roedd hefyd yn ddyfarnwr yn un o gemau Cwpan y Byd.
Ers ymddeol fel dyfarnwr bu'n rhoi llawer o'i amser i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, lle'r oedd mwyafrif y cefnogwyr yn ei adnabod.
Roedd ei hiwmor i'w weld yn gyson pan oedd yn cael ei holi am hynt a helynt y clwb ar y radio a theledu.
'Cawr go iawn'
Cyd awdur 'C'mon Reff!' - hunangofiant Gwyn yng Nghyfres y Cewri, oedd Dylan Llewelyn. Ar ei dudalen Facebook, dywedodd Dylan:
"Does na ddim rhaid i chi fod yn berson tal na mawr i fod yn gawr. Roedd Gwyn Pierce Owen yn gawr go iawn mewn sawl maes a sawl cymuned.
"Mawr yw dyled pêl-droed ym Mangor, Môn a Chymru gyfan am ei gyfraniadau, ei gyfeillgarwch a'i frwdfrydedd ar gaeau ledled yr ardal.
"Mae hyn yn newyddion trist iawn i'w deulu a ffrindiau heddiw, ond mae o'n golled enfawr i'r teulu pêl-droed hefyd.
"Heddwch i lwch dyn unigryw iawn. Braint oedd cael bod yn ffrind i gawr."