Rêf anghyfreithlon Brechfa yn creu pryderon
- Cyhoeddwyd
Mae plismyn yn parhau i gadw golwg ar rêf anghyfreithlon y cawsant wybod amdano yn ystod oriau mân fore Sul.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys iddynt gael eu galw i ddigwyddiad poblog ym Mrechfa, Sir Gaerfyrddin am 01:15.
Dywedodd llefarydd eu bod yn ceisio atal rhagor o bobl a cherbydau rhag mynd yno.
Maent yn annog trigolion yr ardal i adael i'r heddlu ddelio â'r mater ac i beidio ag ymyrryd.
Ychwanegodd bod swyddogion yn tawelu ofnau pobl leol a bod Gwasanaeth Awyr yr Heddlu wedi helpu i gasglu mwy o wybodaeth.
Ymwybodol o deimladau cryfion
"Does dim dwywaith bod digwyddiadau o'r math yma yn cael eu cynllunio a'u trefnu'n ofalus," meddai llefarydd.
"Ry'n i'n sicrhau cymunedau lleol ein bod yn delio gyda'r digwyddiad ac yn ymchwilio i unrhyw weithredu troseddol.
"Ry'n i'n ymwybodol o deimladau cryfion pobl ond ein cyngor yw gadael i'r heddlu ddelio â'r mater.
"Ry'n ni chwaith ddim am ddenu mwy o bobl yma - bydd unrhyw ymwelydd â'r safle yn cael ei droi ymaith."