Lluniau / In Pictures: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd / Monday's Urdd Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Eisteddfod yr anifeiliaid sy'n cael ei chynnal yn Llanelwedd fel arfer ond tro plant Cymru oedd agor y cystadlu ddydd Llun, Mai 28, diwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn 2018.

Usually home to the Royal Welsh Agricultural Show, it's the turn of the children of Wales to enjoy the limelight at the showground at Builth Wells for the first day of the Brecon and Radnorshire Urdd Eisteddfod 2018 on Monday, 28 Mai 2018.

Eleri Jones a SujiFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Suji, sydd bellach yn byw yng Nghorea, gyda'i hathrawes Eleri Jones sydd wedi bod yn ei hyfforddi i adrodd dros Skype - enillodd ail wobr // Suji, pictured here with her former teacher, returned from Korea especially to compete at the recitation and won second prize

Teulu gyda dau o blant mewn masg Mr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Siwan ac Endaf ddim yn edrych yn rhy bryderus fod eu plant, Megan a Huw, wedi troi'n ddau Mr Urdd // Parents Siwan and Endaf don't look to concerned that their children, Megan and Huw, have been replaced by two Mr Urdds

Plant yn gorffen cystadlu ar y llwyfan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hwyl cyrraedd y llwyfan ond mae'n dda cael gorffen eich darn hefyd // Getting to the stage is great, but getting through your competition piece successfully is even better

Bachgen yn tostio 'marshmallows'
Disgrifiad o’r llun,

Alisdair yn hapus yn tostio'i falws melys ei hun // Alisdair masters the art of toasting marshmallows

Heddwas a dwy arall yn edrych ar ffôn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu selffis ar y maes ... // Watch out, the selfie police are about

Babi mewn pram yn mwynhau gwylio be sy'n digwydd ar lwyfan y pafiliwn
Disgrifiad o’r llun,

Chi byth yn rhy ifanc i fwynhau'r cystadlu yn y pafiliwn // You're never too young to enjoy the competing

Dyn yn bwyta hufen iâ
Disgrifiad o’r llun,

Cyfle i gael hufen iâ i frecwast // Ice cream for breakfast

Plant yn dringo ar gerflun o ffermwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adnoddau chwarae a dringo'n arbennig o dda eleni // A statue is turned into an effective climbing frame

Alun 'Tav' Evans, Gwyneth Williams a John Meurig Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Alun 'Tav' Evans, Gwyneth Williams a John Meurig Edwards yw llywyddion anrhydeddus dydd Llun // Alun 'Tav' Evans, Gwyneth Williams and John Meurig Edwards are Monday's honorary presidents

Sgwrsio gefn llwyfan
Disgrifiad o’r llun,

Cyfle i ddal fyny gyda sgwrs gefn llwyfan // A chance for a catch-up

Arwydd croeso/A sign saying Welcome in Welsh
Disgrifiad o’r llun,

Croeso lliwgar i bawb // A colourful 'Croeso' (welcome) is extended to all

Stiward maes parcio
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digon o waith i'r stiwardiaid prysur yn y maes parcio fore Llun // It's hard work for the parking stewards

Ciwiau traffig
Disgrifiad o’r llun,

Er bod ciwiau ben bore, doedd dim problemau mawr // There were queues in the early morning but no major problems