Cwmni Arla i atal cynhyrchu caws yn Llandyrnog

  • Cyhoeddwyd
Arla

Mae cwmni Arla Foods wedi cyhoeddi ei fod am gau ei safle cynhyrchu caws yn Sir Ddinbych.

Fe fydd 97 o weithwyr yn colli eu gwaith o ganlyniad, ac yn ôl llefarydd fe fydd y ffatri'n cau cyn diwedd y flwyddyn.

Dywed y cwmni bod y penderfyniad yn dilyn adolygiad eang o'r busnes, ac fe fydd y gwaith cynhyrchu'n cael ei symud i safleoedd eraill y cwmni yn Nyfnaint ac yn Lockerbie yn Yr Alban.

Fe fydd gwaith pecynnu yn cael ei symud i'w safle yng Nghroesoswallt.

Cafodd gweithwyr wybod am y penderfyniad fore Mawrth.

Mae disgwyl i drafodaethau gychwyn yn syth rhwng y cwmni a chynrychiolwyr undeb, ac mae disgwyl i'r diswyddiadau ddigwydd yn raddol.

Amrywio dulliau cynhyrchu

Daw'r cyhoeddiad bedwar mis wedi i'r cwmni gyhoeddi bwriad i fuddsoddi £32.5m yn ystod 2018 mewn wyth safle ar draws y DU, gan gynnwys ffatri Llandyrnog.

Dywed y cwmni fod yr adolygiad wedi amlygu "cyfle sylweddol" i amrywio'i ddulliau cynhyrchu ac i sicrhau ei fod yn gwneud defnydd llawn o'i holl safleoedd cynhyrchu a phecynnu.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Arla Foods UK, Tomas Pietrangeli y bydd y cynlluniau'n galluogi'r cwmni i weithredu'n fwy effeithiol ac ymateb yn well i ofynion y farchnad.

"Rydym yn derbyn y bydd hwn yn gyfnod anodd i'r holl gydweithwyr sy'n cael eu heffeithio gan y cynigion yma ac ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw i'w cefnogi i reoli'r sefyllfa yma gystal ag y gallen ni."

Ychwanegodd llefarydd nad ydy'r cwmni'n rhagweld y bydd y cynlluniau'n effeithio ar ei gyflenwadau llaeth o Gymru, ac maen nhw'n ymchwilio i bosibiladau cynhyrchu eraill yn Llandyrnog.

Mae Arla yn gwmni cydweithredol dan berchnogaeth 12,000 o ffermwyr ar draws Ewrop.

Gweithwyr yn 'gwybod dim'

Wrth gael ei holi ger y ffatri brynhawn Mawrth, dywedodd un o'r gweithwyr wrth BBC Cymru:

"Mae 'na rumours wedi bod ers misoedd. Doedden nhw ddim yn deud unrhyw beth, dim ond bod 'na announcement yn mynd i fod mewn ychydig o wythnosau.

"'Di hi ddim yn edrych yn dda ar hyn o bryd. Mae 'na lot o staff mewn risk o redundancy.

"Dydyn nhw ddim yn deud dim byd, dim ond 'carry on as usual'.

"Dwi'n gutted i'r ardal a dwi'n gutted drosta i fy hun.

"Mae'n amlwg bod nhw'n gwybod be' sy'n mynd ymlaen. Fyswn i'n hoffi os fyse nhw'n' deud wrtha ni."