Gwrthdrawiad A470 Gwynedd: Cyhoeddi enw dyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
Andrew TunnicliffFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 yng Ngwynedd.

Roedd Andrew Tunnicliff, 53, yn gyrru beic modur pan fu mewn gwrthdrawiad â char Fiat 500 ger Dolwyddelan toc cyn 14:00 ddydd Llun.

Bu farw Mr Tunnicliff, oedd yn wreiddiol o ardal Stoke-on-Trent ond yn byw yn Warrington, yn y fan a'r lle.

Wrth dalu teyrnged iddo dywedodd ei deulu ei fod yn "bartner, mab, brawd ac ewythr cariadus".

"Roedd yn ddyn caredig, cariadus, gofalgar a chlyfar, yn gefnogwr mawr o dîm Port Vale ac yn athrylith ar y cyfrifiadur. Bydd colled fawr ar ei ôl."

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i achos y gwrthdrawiad, ac maen nhw wedi apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd ar y pryd i gysylltu â nhw.