Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio dynes ym Merthyr

  • Cyhoeddwyd
Stryd Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n cynnal profion fforensig yn y tŷ ar Stryd Lewis ym Medlinog

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth dynes 38 oed ym Merthyr Tudful.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Stryd Lewis ym Medlinog fore Mawrth yn dilyn galwad gan berson oedd yn bryderus am les dynes yn yr adeilad.

Dywedodd y llu eu bod wedi canfod corff y ddynes - sydd wedi'i henwi'n lleol fel Michelle Denise Rosser - yn y tŷ, a'u bod yn trin y farwolaeth fel achos o lofruddiaeth.

Mae'r dyn lleol 49 oed yn parhau yn y ddalfa tra bo'r heddlu'n cynnal profion fforensig yn y tŷ.

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth, ac yn annog pobl welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus ar Stryd Lewis rhwng 20:00 nos Wener, 25 Mai, a 06:45 fore Mawrth, 29 Mai i gysylltu â'r llu.

Ychwanegodd y ditectif arolygydd Stuart Wales ei fod yn credu bod y dyn a'r ddynes yn adnabod ei gilydd.