Fishlock yn ystyried ymddeol o bêl-droed rhyngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae seren tîm pêl-droed merched Cymru, Jess Fishlock yn dweud y gallai ymddeol ar ddiwedd yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd.
Y chwaraewr canol cae 31 oed yw'r unig berson i ennill 100 o gapiau dros Gymru.
Ond gyda'r nod o ymestyn ei gyrfa gyda'i chlwb, Seattle Reign, mae Fishlock yn dweud bod "teithio di-stop" pêl-droed rhyngwladol yn cael effaith arni.
"Rwy'n teimlo o bosib mai dyma fydd yr ymgyrch olaf," meddai wrth BBC Cymru.
"Rwy'n caru fy ngwlad a byddai peidio chwarae i Gymru'n anodd iawn, ond rydw i wedi chwarae am dros ddegawd nawr, ac mae'n iawn rhoi'r gorau iddi."
Gemau allweddol i ddod
Dyw tîm merched Cymru erioed wedi cyrraedd Cwpan y Byd o'r blaen, ond mae gobaith y bydd hynny'n newid ar ddiwedd yr ymgyrch yma.
Mae Cymru ddau bwynt y tu ôl i Loegr yn eu grŵp, ac fe lwyddon nhw i gael gêm gyfartal yn eu herbyn yn Southampton ym mis Ebrill.
Bydd Cymru'n herio Bosnia a Rwsia ar 7 a 12 Mehefin - gemau allweddol wrth i Gymru un ai geisio gorffen ar frig y grŵp neu'n ail, a chyrraedd y gemau ail gyfle.