Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes

  • Cyhoeddwyd
Simon WinstoneFfynhonnell y llun, Athena pictures
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Simon Winstone yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes 38 oed yn ardal Merthyr Tudful yn gynharach yn yr wythnos.

Mae Simon Winstone, 49 o Fedlinog, wedi'i gyhuddo o ladd Michelle Denise Rosser, gafodd ei chanfod yn farw mewn tŷ yn Stryd Lewis yn y pentref fore Mawrth.

Fe gafodd Mr Winstone ei gadw yn y ddalfa wedi gwrandawiad yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Mae Heddlu De Cymru'n parhau i apelio am wybodaeth ac yn annog pobl welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus ar Stryd Lewis rhwng 20:00 nos Wener, 25 Mai, a 06:45 fore Mawrth, 29 Mai i gysylltu â'r llu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Michelle Denise Rosser ei ganfod mewn tŷ ym Medlinog fore Mawrth