'Dim gwybodaeth' am benderfyniad morlyn llanw Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwmni sy'n gobeithio adeiladu morlyn llanw ym Mae Abertawe yn dweud eu bod "yn y niwl" am ddyfodol y cynllun, wedi adroddiadau na fydd yn cael sêl bendith.
Daw datganiad Tidal Lagoon Power (TLP) wedi adroddiadau yn y wasg fod gweinidogion yn gwrthod y cynllun am ei fod yn rhy ddrud, ac y gallai cyhoeddiad ddod yn ystod yr wythnos nesaf.
Dywedodd y cwmni eu bod heb gael cyfle i drafod y cynllun gyda gweinidogion yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol er iddyn nhw gynnig cyfarfod "sawl tro".
"Rydym felly yn y niwl ynghylch bwriad yr adran o ran amseriad neu gynnwys unrhyw gyhoeddiad," meddai'r llefarydd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai gwrthod y cynllun yn "gic unwaith eto yn y dannedd".
Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod gofyn i unrhyw benderfyniad am y prosiect roi gwerth am arian i drethdalwyr yn ogystal â defnyddwyr trydan.
Dau gyhoeddiad pwysig i Gymru?
Dywedodd y newyddiadurwr Jim Pickard o bapur newydd y Financial Times wrth Good Morning Wales ei fod ar ddeall bod cyhoeddiad "yn debygol wythnos nesaf, er mae wastad yn bosib i'r pethau yma gael eu gohirio".
"A'r hyn a ddywedwyd wrtha'i yn wreiddiol bythefnos yn ôl gan rywun uchel iawn o fewn y llywodraeth yw eu bod wedi penderfynu nad ydyn nhw am roi cymhorthdal i'r prosiect ym Mae Abertawe," ychwanegodd.
"Dyw hynny ddim o reidrwydd yn golygu y gwnawn nhw hynny... yn ôl pob tebyg mi wnawn nhw ddweud eu bod yn cefnogi ynni llanw ond dydyn nhw ddim yn gallu rhoi cymhorthdal ar y lefel maen nhw'r cynllun yn gofyn amdano."
Mae Mr Pickard hefyd yn awgrymu y gallai'r llywodraeth wneud dau gyhoeddiad ar y un pryd - gyda'r ail yn ymwneud â chodi atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
"Doedden nhw ddim eisiau cyhoeddi un darn o newyddion drwg felly maen nhw'n ceisio'i glymu gyda rhywfaint o newyddion da i Gymru o ran ynni carbon isel," meddai Mr Pickard.
Yn achos atomfa'r Wylfa, meddai, fe allai Llywodraeth y DU roi cymhortdal ar ffurfau contractau, fel y digwyddiad yn achos atomfa Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf,
"Mae hynny'n gyfystyr â chyfran uniongyrchol yn atomfa Wylfa [Newydd] - y tro cyntaf i lywodraeth Prydain wneud hynny yn y maes niwcliar am ddegawdau, felly mae'n newid polisi go iawn."
Adroddiad wedi cefnogi
Morlyn Abertawe fyddai'r cyntaf o chwech os yw'r datblygwyr TLP yn cael eu ffordd.
Fe allai rhagor gael eu codi ar hyd arfordir gorllewinol y DU, gan gynnwys yng Nghaerdydd Casnewydd a Bae Colwyn.
Y llynedd fe wnaeth adroddiad annibynnol argymell cefnogi'r lagŵn gwerth £1.3bn, fyddai yn ôl datblygwyr yn darparu pŵer i 120,000 o dai.
Ond mae'n ymddangos bod y pris cychwynnol yr oedd TLP yn gofyn amdano am awr megawat o drydan wrth brofi'r dechnoleg wedi bod yn faen tramgwydd, er bod y cwmni'n pwysleisio y byddai'r pris yn gostwng dros amser.
Dywedodd y cwmni yn eu datganiad nad oes rhaid i'r pris fod yn uwch na'r telerau sydd wedi'i gynnig i atomfa Hinkley Point C, a byddai'r project llawn dilynol cyntaf yng Nghaerdydd "yn cynnig capasiti ar yr un raddfa ag ynni niwcliar ond am 88 gwaith y llai o gymhorthdal na Hinkley".
"Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan y llywodraeth be fyddai'r pris uned priodol ar gyfer y lagŵn gyntaf arloesol a'r lagŵnau maint llawn fydde'n dilyn o ganlyniad."
'Cic yn y dannedd'
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn annog Llywodraeth y DU roi diwedd ar y darogan a'r ansicrwydd cyn gynted â phosib, gan ddweud y byddai gwrthod y cynllun yn "gic unwaith eto yn y dannedd" wedi eu penderfyniad i beidio trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Dywedodd fod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r prosiect yn parhau "ac rydym yn barod i roi cefnogaeth ariannol sylweddol i helpu ei wireddu".
"Mae Adolygiad Hendry, oedd yn llwyr gefnogi'r prosiect, yn hel llwch ers bron i flwyddyn a hanner. Yn hytrach na manteisio ar gyfle i sicrhau fod Prydain yn arwain y byd mewn diwydiant rhyngwladol newydd, mae Llywodraeth y DU yn dal i rwystro datblygiad cynlluniau ynni adnewyddol yng Nghymru."
Pe bai'r adroddiadau yn gywir, fe fyddai'n ergyd "eto fyth" i Abertawe, medd AS Llafur Gŵyr, Tonia Antoniazzi, sydd hefyd yn aelod o bwyllgor Seneddol sy'n edrych i'r prosiect.
Dywedodd y byddai penderfyniad o'r fath yn amlygu "difaterwch ynghylch pobl a'u bywydau" ac yn codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol ynni adnewyddol yn y DU.
Yn ôl Dai Lloyd, AC Plaid Cymru yn rhanbarth Gorllewin De Cymru, ni ddylai San Steffan "benderfynu sut y dylid defnyddio adnoddau Cymru".
"Mae pobl Cymru'n cefnogi'r prosiect yma, mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r prosiect ac mae pobl Abertawe'n ei gefnogi ond mae San Steffan yn dweud na," meddai.
Gwerth am arian
Fe fyddai gwrthod y cynllun yn newyddion eithriadol o ddrwg ar gyfer ardal ehangach, meddai cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol lleol, Peter Black, gan y byddai economi ardal Bae Abertawe wedi elwa o ganlyniad "creu nifer fawr o swyddi o ansawdd uchel".
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol bod gofyn i unrhyw benderfyniad am y prosiect roi gwerth am arian i drethdalwyr yn ogystal â defnyddwyr trydan.
"Fel y dywedodd yr ysgrifennydd busnes wrth Aelodau Seneddol yn ddiweddar, tra bod canran y trydan o ffynonellau adnewyddol wedi cynyddu bedair gwaith ers 2010, mae gyda ni gyfrifoldeb i leihau'r effaith ar filiau cwsmeriaid ac mae cynnig cynllun Abertawe'n ddwywaith yn ddrytach na phwerdy Hinkley," meddai.
"Fodd bynnag, rydym wedi ymroddi i barhau i edrych i'r holl bosibiliadau a'r heriau wrth ystyried cynnig sydd - fel y ddywedodd Llywodraeth Cymru - yn ymwenud â thechnoleg sydd heb ei brofi ac sydd â chostau cyfalaf uchel ac ansicrwydd sylweddol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018
- Cyhoeddwyd1 Mai 2018